Trump am oedi tywys llongau trwy Hormuz
Mae Donald Trump wedi dweud y bydd yn oedi tywys llongau trwy gulfor Hormuz.
Yn ôl Arlywydd America mae'r oedi yn digwydd achos bod yna "gynnydd gwych" wedi ei wneud tuag at gael cytundeb heddwch gyda Iran.
Fe ddaeth y cais am yr oedi meddai Trump gan Bacistan a gwledydd eraill.
Roedd America wedi dweud ddydd Llun y bydden nhw yn cychwyn tywys llongau trwy'r culfor a helpu i adfer llif yr olew o'r ardal.
Mae'r cyfryngau yn Iran sydd yn cael eu rheoli gan y wladwriaeth wedi dweud bod yr Unol Daleithiau wedi "cilio" a hynny wedi "methiannau cyson" i ail agor y culfor.
Mae culfor Hormuz yn llwybr teithio hanfodol i longau ar draws y byd er mwyn cludo nwyddau.
Ddydd Mawrth fe ddywedodd ysgrifennydd gwladol America, Marco Rubio bod y cadoediad rhwng Iran a'r Unol Daleithiau dal mewn grym.
Dywedodd wrth newyddiadurwyr mewn cynhadledd i'r wasg bod angen i Iran gwrdd â gofynion Trump ynglŷn â'i rhaglen niwclear er mwyn i heddwch ddigwydd. Ychwanegodd bod angen iddyn nhw ail agor culfor Hormuz hefyd.
Fe ddywedodd cadlywydd uchel gyda'r fyddin hefyd mai nawr yw'r amser i wledydd sydd gyda "siâr ecwiti" yng nghulfor Hormuz i helpu America.
Yn y gorffennol mae'r Tŷ Gwyn wedi bod yn feirniadol iawn o ymateb Prydain a chynghreiriad eraill i'r argyfwng yn y Gwlff.