Galw am bont newydd dros Afon Hafren ger y Trallwng
Mae deiseb sydd yn galw am bont newydd dros Afon Hafren mewn pentref ger y Trallwng wedi derbyn dros 1,300 o lofnodion.
Mae'r ddeiseb wedi ei chyflwyno i gynghorydd ardal Llandrinio, Lucy Roberts.
Bydd y cynghorydd yn cyflwyno'r ddeiseb i aelod cabinet Cyngor Powys sydd yn gyfrifol am bontydd a ffyrdd, sef Jackie Charlton.
Mae'r bont, sydd ar hyd ffordd y B4393, wedi'i difrodi yn sgil gwrthdrawiad ym mis Hydref y llynedd. Cafodd rhan o ochr y bont ei thorri a disgynnodd i'r afon islaw.
Cafodd y ffordd ei chau fis diwethaf wrth i'r cyngor fynd ati i adfer y rhan o'r bont a ddisgynnodd i'r afon.
Mae'r bont yn un rhestredig Gradd 1 ac fe gafodd ei hadeiladu rhwng 1769 a 1775.
'Hanesyddol'
Fe gafodd y ddeiseb ei chreu gan drigolion Llandrinio a chyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Powys, Graham Brown, ym mis Hydref y llynedd.
Dywedodd Mr Brown fod y bont yn rhan "allweddol" wrth gludo disgyblion i ysgolion yn y sir.
"Mae'r bont hanesyddol yn hollol hanfodol i fusnesau a theithwyr sydd yn mynd i drefi fel yr Amwythig.
"Hefyd mae'n rhan allweddol o lwybr bws disgyblion ysgolion y Trallwng a Llanfyllin, a hefyd i sawl ysgol gynradd sydd yn dibynnu ar y bont yma."
Ychwanegodd Mr Brown fod cau'r ffordd ar adegau dros y misoedd diwethaf wedi achosi "anghyfleustra enfawr" i'r gymuned leol ac mae'n galw am bont newydd dros yr afon.
"Byddai pont newydd yn sicrhau llwybr trafnidiaeth dibynadwy ar gyfer gofynion traffig ein cymuned, yn cadw cyfanrwydd hanesyddol y bont bresennol, ac yn bwysicaf oll, yn diogelu bywydau ein trigolion.
“Byddai ail bont nid yn unig yn lleddfu’r pwysau traffig ar y strwythur presennol ond hefyd yn ysgogi gweithgareddau economaidd trwy ddarparu llwybr dibynadwy ar gyfer trafnidiaeth fasnachol.
“Mae’n hanfodol ar gyfer ffyniant parhaus a gweithrediad dyddiol ein cymuned.”
Cafodd y ddeiseb ei chefnogi gan 1,123 o bobl ar-lein gyda 250 arall wedi llofnodi copïau papur.