Môn: Arestio dyn lleol ar amheuaeth o ymosod ger archfarchnad
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod a thagu bwriadol ger archfarchnad ym Môn.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ym maes parcio archfarchnad Aldi yng Nghaergybi am 18.40 nos Fercher.
Cafodd dyn lleol 20 oed ei arestio ar amheuaeth o dri achos o ymosod a thagu bwriadol.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymwybodol bod lluniau o’r dioddefwyr wedi cael eu rhannu’n eang ar-lein.
Mae swyddogion yn atgoffa pobl ei bod yn drosedd i unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth a all beryglu unrhyw achos troseddol posibl yn y dyfodol.
Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw dros y we, gan ddyfynnu cyfeirnod 26000238767