Miloedd o staff Virgin Media O2 mewn perygl o golli eu swyddi
Mae miloedd o staff Virgin Media O2 mewn perygl o golli eu swyddi.
Daw hyn wrth i’r cwmni technoleg cyfathrebu geisio arbed arian yn wyneb dyledion o biliynau o bunnoedd.
Dywedodd undeb Prospect, sy’n cynrychioli staff Virgin Media O2 (VMO2), fod y toriadau’n “siomedig ac yn peri pryder mawr”.
Nid yw’r cwmni wedi cadarnhau maint y toriadau eto.
Mae Sky News ar ddeall bod hyd at 4,000 o swyddi, allan o weithlu o 16,000, yn y fantol.
Fe wnaeth VMO2 gau canolfan alwadau yn Abertawe yn 2018, gan olygu bod 800 o swyddi wedi'u colli.
Mae gan y cwmni bellach ddyledion o biliynau o bunnoedd ac mae’n wynebu cystadleuaeth gan ddarparwyr llai, yn ogystal â chewri fel BT.
Mae BT wedi cytuno ar fargen i brynu ei gystadleuydd TalkTalk, cytundeb y mae VMO2 wedi dweud ei fod yn ei wrthwynebu'n gryf.
Wrth ymateb, dywedodd dirprwy ysgrifennydd cyffredinol Prospect, Noel McClean, fod yr undeb “wedi ymrwymo i gefnogi ein haelodau drwy gyfnod anodd”.
Ychwanegodd fod yr undeb yn “gweithio gyda chyflogwyr i edrych ar ffyrdd o leihau nifer y swyddi fydd yn cael eu colli a sicrhau bod y staff sy’n cael eu heffeithio yn cael eu hailhyfforddi a’u symud i swyddi eraill”.
Yn ôl cyfrifon diweddaraf y cwmni, roedd cyfanswm dyledion VMO2 yn £27.2 biliwn ar 30 Mehefin, ac roedd ganddo asedau gwerth £45.9 biliwn.
