Michael Sheen i wynebu ASau ynghylch honiadau am gemegion gwenwynig yng Nghymru

Michael Sheen

Bydd yr actor Michael Sheen yn annerch Aelodau Seneddol er mwyn rhannu tystiolaeth o raglen ddogfen oedd yn ymchwilio i honiadau o halogiad cemegol yng Nghymru.

Fis diwethaf cafodd y gyfres BBC Buried with Michael Sheen ei darlledu oedd yn archwilio canfyddiadau Douglas Gowan, oedd yn credu fod pobl wedi eu gwenwyno ar ôl degawdau o fod mewn cysylltiad â chemegau gwenwynig yn yr amgylchedd.

Ddydd Iau, fe fydd yr actor, a fagwyd ym Mhort Talbot, yn ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymru gyda'r newyddiadurwyr ymchwiliadol Lucy Taylor a Dan Ashby, oedd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen, i drafod eu canfyddiadau gyda'r Aelodau Seneddol.

Archwiliodd y rhaglen ddogfen honiadau Mr Gowan fod miloedd o dunelli o gemegau diwydiannol gwenwynig, a elwir yn bolyclorinedig biffenylau (PCBs), wedi cael eu gollwng mewn safleoedd ar draws Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Cafodd Michael Sheen gyfweld â Gowan ychydig cyn iddo farw yn 2018, yn 74 oed.

Roedd y gyfres yn cynnwys rhannau o’r cyfweliadau hyn yn ogystal â chyfarfodydd Sheen gydag aelodau o'r cymunedau gafodd eu heffeithio, gwyddonwyr fforensig, ac arbenigwyr amgylcheddol.

Mae disgwyl i’r actor a’i gyd-gyflwynwyr drafod gydag ASau pa newidiadau i bolisi a deddfwriaeth gall gael eu hystyried er mwyn rhoi gwell cymorth i gymunedau sy’n byw'n agos at safleoedd diwydiannol a fu’n weithredol yn y gorffennol.

Wrth siarad mewn sesiwn holi ac ateb am y rhaglen ddogfen ym mis Gorffennaf, dywedodd Sheen ei fod yn gobeithio y byddai'r gyfres yn “annog rhywbeth i ddigwydd”.

Ychwanegodd: “Rwy’n credu ei bod hi'n bwysig dweud mai’r brif anghyfiawnder yma yw bod y bobl sy’n gyfrifol wedi llwyddo i osgoi cymryd cyfrifoldeb.

“Dylai’r bobl sy’n dympio’r pethau hyn gael eu gwneud yn gyfrifol, ond yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yw bod y cwmni’n troi’n gwmni gwahanol, ac yna’n gwmni gwahanol arall ac yn gwmni gwahanol arall, ac yn sydyn nid yw’r bobl sy’n gyfrifol yn bodoli mwyach.

“Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ymateb rhyngwladol er mwyn tynnu’r pwysau oddi ar y cymunedau bach a’r unigolion sydd yma ac sy’n rhoi eu bywyd i’r achos hwn. Ni all fod yn gyfrifoldeb arnynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.