'Methu credu'r peth': Jak Jones yn ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain

jak jones.png

Mae’r Cymro Jak Jones wedi ennill Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain ar ôl iddo drechu cyn-bencampwr y byd Mark Selby.

Roedd y ddau yn gyfartal ar bedair ffrâm yr un ar ôl sesiwn y prynhawn. Ond fe ddechreuodd Jones ennill tir, gan fynd ar y blaen 7-5.

Ar ôl sgorio 53 a 62, roedd Jones un ffrâm yn unig o fuddugoliaeth. Yna methodd Selby bêl werdd, gan roi cyfle i’r Cymro gipio’r teitl.

“Dwi’n methu credu’r peth, a dweud y gwir,” meddai Jak Jones wrth Channel 5 ar ôl y gêm.

“Do’n i erioed wedi meddwl y byddwn i’n gallu trechu Mark Selby mewn gornest hir a chaled, ond dyna dwi wedi’i wneud heddiw.”

Yn 2024, cyrhaeddodd y Cymro rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd, ac ym mis Gorffennaf enillodd ei deitl safle cyntaf drwy ennill Cynghrair y Bencampwriaeth 2026.

Ychwanegodd: “Mae’r 15 mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd – dwi wedi bod yn brwydro ymlaen. 

"Mae’n anhygoel i fy rhieni, fy ngwraig a fy mab, oherwydd dydw i ddim wir wedi cyflawni llawer yn y gamp.

“Y tymor hwn, mae dechrau ennill pethau yn deimlad anhygoel.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.