Galw am ailwampio brechu moch daear rhag TB yng Nghymru
Mae arbenigwyr yn galw am ailwampio'r modd y mae moch daear yn cael eu brechu rhag twbercwlosis buchol (TB) yng Nghymru.
Dywedodd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Grŵp Polisi Cymru Cymdeithas Ecolegol Prydain fod angen targedu a monitro rhaglenni brechu yn well.
Maen nhw'n rhybuddio bod bylchau "sylweddol" yn y dystiolaeth ynglŷn ag effaith brechu moch daear ar lefelau TB mewn gwartheg.
Mae brechu moch daear yn rhan o raglen ehangach Cymru i ddileu TB buchol, ac mae ymchwil wedi dangos y gall brechlyn BCG leihau'r risg o haint, difrifoldeb y clefyd a'r tebygolrwydd y bydd moch daear yn ei drosglwyddo.
Ond yn ôl yr ymchwilwyr, mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â faint o foch daear sy'n cael eu brechu, effaith y rhaglenni ar achosion ymhlith gwartheg, a hyder ffermwyr a milfeddygon yn y dull.
Daw'r alwad wrth i'r ffigurau swyddogol diweddaraf ddangos bod nifer yr achosion newydd o TB mewn buchesi yng Nghymru wedi gostwng.
Roedd 479 o achosion newydd mewn buchesi rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, gostyngiad o 23% o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol. Dyma'r nifer isaf dros gyfnod o 12 mis yng Nghymru ers Gorffennaf 2002.
Cafodd 10,395 o anifeiliaid eu lladd yng Nghymru oherwydd TB yn ystod yr un cyfnod, 21% yn llai na'r flwyddyn flaenorol.
Roedd 504 o fuchesi o dan gyfyngiadau oherwydd achos o TB ddiwedd Mawrth 2026, gostyngiad o 24% mewn blwyddyn a'r nifer isaf yng Nghymru ers Medi 2006.
'Un o'r heriau iechyd anifeiliaid mwyaf'
Dywedodd Dr Niall McKeown, Darlithydd yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Is-gadeirydd Grŵp Polisi Cymru Cymdeithas Ecolegol Prydain, fod TB buchol yn parhau i fod yn "un o'r heriau iechyd anifeiliaid mwyaf sy'n wynebu Cymru".
"Ni ddylid cyflwyno brechu moch daear fel llwybr unigol i ddileu twbercwlosis buchol," meddai.
"Mae tystiolaeth gref bod brechiad BCG yn amddiffyn moch daear, ond mae'r dystiolaeth bod rhaglenni brechu gweithredol yn lleihau clefyd mewn gwartheg yn parhau i fod yn gyfyngedig.
"Mae unrhyw fudd ar lefel gwartheg yn debygol o ddibynnu ar frechu parhaus a digon helaeth ochr yn ochr â rheolaethau gwartheg effeithiol."
Ychwanegodd mai nid "dim ond mwy o frechu" sydd ei angen yng Nghymru, ond rhaglen sydd wedi'i thargedu, ei mesur a'i gwerthuso'n well.
Mae'r ymchwilwyr yn cynnig defnyddio dulliau gan gynnwys trapiau camera, olrhain GPS a dadansoddi genetig er mwyn cael gwell syniad o faint o foch daear sydd mewn ardaloedd penodol a faint ohonynt sy'n cael eu brechu.
Maen nhw hefyd am weld y wybodaeth honno'n cael ei chymharu â data dros nifer o flynyddoedd am achosion o TB mewn gwartheg.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn adnewyddu ein dull o ddileu TB buchol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dair prif elfen: gwartheg, pobl a bywyd gwyllt.
"Bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan ystyried cyngor y Bwrdd Rhaglen a'r Grŵp Cynghori Technegol, wrth sicrhau bod gwerth am arian yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau."