Y nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn ymuno â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Y Carneddau a'r Glyderau

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cofnodi'r nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn ymuno â'r elusen am yr ail flwyddyn yn olynol.

Fe ymunodd tua 50,600 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed â'r elusen rhwng mis Mawrth 2025 a mis Chwefror 2026, cynnydd o 26% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Yn ôl adroddiad blynyddol yr elusen a gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun, roedd 40,200 o bobl ifanc wedi ymuno yn ystod y flwyddyn flaenorol, oedd hefyd yn record ar y pryd.

Mae aelodaeth i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed yn costio £4.20 y mis, neu £50.40 y flwyddyn, sef hanner pris aelodaeth oedolyn.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rene Olivieri, fod y cynnydd yn "newyddion da i natur ac yn newyddion da i dreftadaeth".

"Rwy'n falch iawn bod cymaint o bobl ifanc eisiau bod yn rhan o'r achos hwn," meddai.

Er iddo groesawu'r cynnydd yn nifer yr aelodau ifanc, rhybuddiodd Mr Olivieri am gyflwr y byd naturiol mae'r genhedlaeth nesaf yn ei etifeddu.

"Mae pobl ifanc yn y DU yn etifeddu byd naturiol sy'n dirywio ac mae llawer yn wynebu llai o gyfleoedd diwylliannol oherwydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y genedlaethau cynt," meddai.

"Mae arnom ni ddyled iddyn nhw i wneud natur a diwylliant yn rhan o fywyd pob person ifanc."

Dywedodd Claudia Hayes, 25 oed, sy'n gweithio fel swyddog tai a chasgliadau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac sydd â mwy na 10,000 o ddilynwyr ar Instagram drwy ei chyfrifon History with Claudia, fod y cynnydd yn dangos mai nid diddordeb dros dro yn unig yw hwn.

"Mae'n profi nad diddordeb byrhoedlog yw hwn, mae'n duedd sy'n tyfu, ac mae'n cadarnhau'r hyn rwy'n ei glywed gan bobl ifanc ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd, eu bod nhw'n gyffrous am hanes a threftadaeth a'u bod nhw eisiau cymryd rhan," meddai.

"Os gallwn ymgysylltu â phobl ifanc nawr a'u cael i ffurfio cysylltiadau cadarnhaol â threftadaeth a natur, yna byddan nhw'n fwy tebygol o ofalu am y pethau hyn yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.