Y cyflwynydd BBC News Maryam Moshiri yn dioddef o ganser y gwaed
Mae cyflwynydd BBC News, Maryam Moshiri, wedi dweud ei bod wedi cael diagnosis o fath o ganser y gwaed nad oes modd ei wella.
Mewn cyfweliad â The Times, dywedodd Moshiri ei bod wedi bod yn cael triniaeth ar gyfer polycythaemia vera (PV) ers iddi gael diagnosis ym mis Tachwedd 2024.
Mae PV yn fath prin o ganser sy’n achosi i fêr yr esgyrn gynhyrchu gormod o gelloedd coch y gwaed, gan wneud y gwaed yn fwy trwchus.
“Fe fydd gyda fi tan y diwrnod y bydda i’n marw,” meddai’r fenyw 49 oed wrth y papur newydd.
“Rhan fawr o fyw gyda’r clefyd hwn yw bwrw ymlaen â’ch bywyd.”
Roedd ei thriniaeth gyntaf yn cynnwys triniaeth o’r enw venesection, neu fflebotomi, tua dwywaith y mis.
Yn ystod y driniaeth, mae bron i beint o waed yn cael ei dynnu drwy wythïen er mwyn lleihau crynodiad celloedd coch y gwaed.
Yn ddiweddarach, dechreuodd y fam i dri gael triniaeth imiwnotherapi o’r enw interfferon.
Parhau i weithio
Roedd hyn yn lleihau nifer y triniaethau venesection oedd eu hangen. Roedd y sgil-effeithiau’n “ofnadwy” meddai, gan gynnwys anhunedd, cur pen a chosi oedd yn teimlo fel pe bai’n “dod o’r tu mewn” iddi.
“Roeddwn i’n crafu nes fy mod yn gwaedu drwy fy nillad. Mae creithiau ar hyd a lled fy mol oherwydd y crafu,” meddai.
Ar ôl ychydig fisoedd, roedd hi’n gallu newid i fath arall o gyffur oedd â sgil-effeithiau llai difrifol.
Mae Moshiri wedi parhau i weithio drwy gydol ei thriniaeth, gan gynnwys arwain darllediadau’r BBC o Rufain yn dilyn marwolaeth y Pab Ffransis.
“Roeddwn i’n gweithio diwrnodau 14 awr, ar yr awyr drwy’r amser, yn gorfod meddwl ar fy nhraed drwy’r amser, ac yn dal popeth at ei gilydd er gwaetha’r ffaith fy mod yn dioddef o flinder cronig,” meddai.
“Pan rydych chi’n cyflwyno newyddion byw, rydych chi’n cael rhuthr o adrenalin ac mae’n rhaid i chi fwrw ymlaen.”
Dywedodd Moshiri, er bod “addasu i fywyd gwahanol” wedi bod yn her, fod dyfodol “llawn apwyntiadau ysbyty a llwyth o feddyginiaeth” yn well na’r dewis arall.
“Mae hynny’n well, wrth gwrs, na marw o ganser erchyll,” meddai.
“Ond mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i chi ddod i delerau ag ef.”