Historic England yn anrhydeddu gwyddonydd o Gaerfyrddin

Llun: Ymddiriedolwyr y Natural History Museum / Historic England
Dorothea Bate

Bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio yn Sir Hertford ddydd Llun i gydnabod cyfraniad heliwr ffosiliau a gafodd ei geni Nghaerfyrddin.

Bu farw Dorothea Bate yn 1951 yn 72 oed. 

Hi oedd un o'r menywod cyntaf i gael ei chyflogi gan y National History Museum.  

Yn ôl sefydliad Historic England, sy'n gosod y plac, llwyddodd Dorothea Bate i “drawsnewid ein dealltwriaeth o anfeiliaid cynhanesyddol a'r amgylchedd hynafol” trwy ei hymchwil.  

Bydd y plac yn cael ei osod ar wal y National History Museum yn Tring,  Sir Hertford. 

Mae'n nodi fod Ms Bate yng ngofal yr amgueddfa o 1948 i 1951.

Cafodd ei geni yn Napier House, Stryd Spilman, Caerfyrddin ar 8 Tachwedd 1878,  ac roedd ganddi ddiddordeb mawr yn y byd naturiol pan yn ifanc iawn.

Ac mae Ms Bate eisoes wedi ei hanrhydeddu yn ei thref enedigol. Cafodd plac glas ei osod ar ei chyn-gartref yn 2017 gan Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin. 

Symudodd gyda'i theulu i ardal wledig yn Sir Gaerloyw pan roedd hi'n ddynes ifanc gan dreulio oriau yn archwilio cefn gwlad ac ogofeydd gan gasglu ffosiliau. 

Chafodd hi fawr o addysg. Yn hytrach dysgodd ei hun, ac yn 1900 gofynnodd am waith y tu ôl i'r llen gyda'r Natural History Museum yn Llundain.

Gwnaeth argraff ar staff yr amgueddfa, a daeth yn gynorthwy-ydd. Bu'n gysylltiedig â'r amgueddfa am fwy na 50 mlynedd wedi hynny, gan arwain sawl prosiect ar hyd a lled y byd.  

A hithau'n 22 oed, cyhoeddodd ei phapur gwyddonol cyntaf A Short Account Of A Bone Cave In The Carboniferous Limestone Of The Wye Valley, yn 1901.

Aeth Dorothea Bate ymlaen i weithio yn ne Ewrop, ac roedd hi'n aml yn teithio ar ei phen ei hun i ogofeydd anghysbell, er mwyn dod o hyd i dystiolaeth am fywyd hynafol.     

Ar Ynys Cyprus, daeth o hyd i dystiolaeth am eliffantod bychain, ac yn 1909, tra ar Ynysoedd Baleares, fe wnaeth hi ddarganfod myotragus, antelop yn debyg i arfr a oedd wedi diflannu o'r tir.

Yn ôl Historic England, hi arweiniodd y ffordd ar gyfer dyfodol menywod eraill ym maes gwyddoniaeth. 

Mae'r sefydliad yn nodi fod y plac glas yn fodd o sicrhau bod ei chyfraniad i wyddoniaeth yn cael y sylw ehangach y mae'n ei haeddu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.