Y Canghellor i roi arian datblygu i ranbarth dinas Caerdydd

Y Canghellor, John Healey

Mae disgwyl i’r Canghellor gynnig darlun positif o’r economi, a chyhoeddi y bydd arian datblygu ychwanegol yn cael ei roi i ranbarth dinas Caerdydd, yn ddiweddarach.

Bydd yn datgelu ei weledigaeth mewn araith ddydd Llun.

Daw hyn cyn i Gyllideb Llywodraeth y DU gael ei chyhoeddi fis nesaf.

Mae’r arian i ranbarth dinas Caerdydd yn dod o’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol, sydd â’r nod o roi’r seiliau i ranbarthau ar draws Prydain greu swyddi a datblygu prosiectau newydd.

Y rhanbarthau eraill yw De Efrog, Rhanbarth Dinas Lerpwl a Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Bydd John Healey yn trafod “stori newydd” yn ei araith, gan ddweud bod yr economi wedi gwneud mwy na dim ond troi cornel. 

Bydd yn dweud bod yr economi erbyn hyn yn wydn ac yn “barod i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o dechnolegau a syniadau newydd”.

Mae disgwyl iddo hefyd gyhoeddi y bydd £150 miliwn o gyllid ar gael i gwmnïau yng ngogledd Lloegr. Bwriad y llywodraeth yw creu mwy o dwf economaidd ledled y DU.

Ond mae’r amgylchiadau economaidd yn heriol, gyda chost benthyca’r DU wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 18 mlynedd. Mae effaith y rhyfel yn Iran hefyd yn brathu.

Mae economegwyr yn rhybuddio efallai y bydd yn rhaid i Healey godi trethi neu dorri gwariant mewn rhai adrannau er mwyn helpu’r economi.

Yn ôl y Ceidwadwyr, bydd cynlluniau Healey “yn gwneud fawr ddim i gysuro teuluoedd a busnesau gweithgar”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud na fydd “ailgyhoeddi’r £150 miliwn” yn gwneud “unrhyw wahaniaeth i dwf economaidd” Prydain, tra bod Reform yn honni nad oes gan y Canghellor “unrhyw syniad sut i achub ein heconomi”.

Llun: Stefan Rousseau/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.