Ymchwiliad profion niwclear: Merch cyn-filwr o Landeilo yn galw am ymddiheuriad

Carol Williams

Mae merch cyn-filwr o Landeilo wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymddiheuro am yr hyn y mae'n ei honni oedd yn guddio tystiolaeth am effaith profion niwclear ar iechyd milwyr yn ystod y Rhyfel Oer.

Daw sylwadau Carol Williams wedi i Brif Weinidog y DU, Andy Burnham, gyhoeddi y bydd panel annibynnol yn cael ei sefydlu i ymchwilio i brofiadau cyn-filwyr a oedd yn rhan o raglen profi arfau niwclear Prydain.

Dywedodd Mr Burnham fod cyn-filwyr a'u teuluoedd wedi "aros yn rhy hir am y gwir", gan addo y bydd yr ymchwiliad yn datgelu'r "gwir cyfan".

Mae Carol Williams, merch i Peter Williams, a wnaeth wasanaethu ar Ynys y Nadolig i weithio ar brofion bomiau niwclear yn y 1950au, wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond yn pryderu y bydd yr ymchwiliad yn cymryd rhy hir.

"Licsen i bod nhw'n ymddiheiro i'r dynion, i'r cyn-filwyr, a dweud eu bod nhw wedi cael eu defnyddio fel lab rats, fel guinea pigs," meddai.

"Dw i eisiau iddyn nhw ddweud sori eu bod nhw wedi cuddio'r holl dystiolaeth, a'r papurau meddygol maen nhw wedi cadw oddi wrthyn nhw."

Bydd yr ymchwiliad yn dilyn yr un model ag ymchwiliad Hillsborough, gyda'r Esgob James Jones, a gadeiriodd banel annibynnol Hillsborough, yn cadeirio'r panel yma.

Wrth siarad yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd Andy Burnham nad yw'n diystyru'r posibilrwydd o roi iawndal i gyn-filwyr a fu'n rhan o brofion niwclear, gan ddweud wrth ASau ei fod yn "sicr" y byddai Llywodraeth y DU yn ymddiheuro'r flwyddyn nesaf.

Roedd y Prif Weinidog i'w weld yn emosiynol wrth iddo ddweud y byddai panel annibynnol yn cael ei sefydlu i ddarganfod y "gwir cyfan" am effaith y profion niwclear ar gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Ychwanegodd y byddai adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi cyn 3 Hydref y flwyddyn nesaf, pan fydd hi'n 75 mlynedd ers cynnal y prawf cyntaf oddi ar arfordir gorllewinol Awstralia.

'Mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth yn syth'

Yn ystod y Rhyfel Oer, fe wnaeth Llywodraeth Prydain gynnal cyfres o brofion bomiau niwclear yn Awstralia a'r Môr Tawel, gyda'r nod o ddatblygu arfau niwclear y Deyrnas Unedig.

Ers degawdau, mae cyn-filwyr a'u teuluoedd wedi dadlau bod y profion wedi cael effaith hirdymor ar eu hiechyd.

Mae rhai wedi honni eu bod wedi dioddef o ganser ac anhwylderau gwaed, a bod teuluoedd wedi colli babanod drwy gamesgoriadau o ganlyniad i'r profion.

Wrth siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar yn gynharach ym mis Tachwedd, dywedodd Carol ei bod yn flin gyda Llywodraeth  y DU am beidio â chydnabod yr effaith a gafodd y profion, yn ei barn hi, ar iechyd ei thad.

Er ei bod yn croesawu'r cyhoeddiad am ymchwiliad, mae'n dweud bod angen gweithredu ar frys oherwydd oedran ac iechyd nifer o'r cyn-filwyr.

"Mae'r dynion, a theuluoedd y dynion, y veterans, yn gwaethygu. Mae eu hiechyd nhw'n gwaethygu. Mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth yn syth," meddai.

"Dw i eisie nhw gyfadde bod nhw wedi bod yn cuddio yr holl bethe.

"Achos galle'r dynion hyn wedi cael help gyda'u hiechyd nhw'n gynharach, a ddim wedi dioddef fel y maen nhw wedi, a'r teuluoedd hefyd wedi colli tadau yn ifanc."

Image
Andy Burnham yn cyfarfod gyda chyn-filwyr. Llun: Llun: Ian Vogler/Daily Mirror/PA
Andy Burnham yn cyfarfod gyda chyn-filwyr. Llun: Llun: Ian Vogler/Daily Mirror/PA

'O'n i'n gallu gweld ein hesgyrn trwy'n dwylo ni'

Roedd dyletswyddau Peter Williams ar Ynys y Nadolig yn cynnwys mynd i mewn i'r parth profi yn syth ar ôl i fom ffrwydro er mwyn adfer camerâu ffilm o fynceri.

Dywedodd mai'r cyngor a gafodd ar y pryd oedd troi ei gefn, cau ei lygaid a'u gorchuddio â'i ddwylo pan oedd y bomiau'n ffrwydro.

Fe ddychwelodd Peter i'r ynys, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Kiritimati, yn 2003 fel rhan o raglen Y Byd ar Bedwar.

"O'n i'n gallu gweld ein esgyrn trwy'n dwylo ni, fel X-ray," meddai ar y pryd.

Cafodd Peter ddiagnosis o ganser yn 2003, a bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd yn credu bod ei salwch wedi ei achosi gan ei gyfnod ar Ynys y Nadolig.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwadu ers degawdau ei bod wedi cuddio effaith ymbelydredd ar filwyr a oedd yn rhan o'r profion arfau niwclear.

"Mae'r dynion hyn wedi aros digon, 75 mlynedd blwyddyn nesa', am atebion," ychwanegodd Carol.

'Cam gwych ymlaen'

Y disgwyl yw y bydd y panel annibynnol yn gweithredu o dan Ddeddf Hillsborough, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cyhoeddus ac awdurdodau weithredu'n agored ac yn dryloyw yn ystod yr ymchwiliad.

Yn ôl Alan Owen, un o gyd-sylfaenwyr y grŵp ymgyrchu Labrats, mae'r cyhoeddiad yn "gam gwych ymlaen".

Roedd ei dad yn un o'r milwyr a fu'n gwasanaethu yn ystod Ymgyrch Dominic ar Ynys y Nadolig yn 1962.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn un "cyflym", gan fod nifer o'r cyn-filwyr bellach yn eu hwythdegau hwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.