Merch cyn-filwr o Landeilo'n galw am atebion am brofion niwclear Ynys y Nadolig

Y Byd ar Bedwar

Merch cyn-filwr o Landeilo'n galw am atebion am brofion niwclear Ynys y Nadolig

Mae merch cyn-filwr o Landeilo a gafodd ei anfon i Ynys y Nadolig yn y 1950au wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o ddefnyddio'r dynion oedd yn rhan o brofion niwclear yno fel "guinea pigs".

Mae Carol Williams, merch i Peter Williams, a wnaeth wasanaethu ar yr ynys, yn dweud ei bod yn flin gyda'r Llywodraeth am beidio â chydnabod yr effaith y cafodd y profion yn ei barn hi ar iechyd ei thad.

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd “Bendant cover up yw hwn. O nhw’n guinea pigs, ‘na beth wedodd dad”.

“Moch gwta i’r llywodraeth yna i gael gwybod beth oedd effaith yr ymbelydredd ar ddyn, ar gorff dyn.”

Yn ystod y 1950au, fe wnaeth Llywodraeth Prydain gynnal cyfres o brofion bomiau niwclear a hydrogen ar Ynys y Nadolig, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Kiritimati, yng nghanol y Môr Tawel.

Nod y profion oedd datblygu arfau niwclear Prydain a phrofi eu gallu dinistriol, wrth i'r wlad geisio sefydlu ei hun fel pŵer niwclear yn ystod y Rhyfel Oer.

Cafodd miloedd o filwyr eu hanfon i'r ynys i gefnogi'r profion, gyda llawer ohonynt yn gwneud eu Gwasanaeth Cenedlaethol ar y pryd. 

Roedd Prydain, America, Awstralia, Seland Newydd a Ffiji yn rhan o'r cynllun.

Tua 70 mlynedd yn ddiweddarach, mae teuluoedd y cyn-filwyr oedd yn ymwneud â’r profion yn dweud bod effeithiau’r ymbelydredd yn dal i’w gweld hyd heddiw.

Roedd Gwasanaeth Cenedlaethol yn gyfnod gorfodol yn y lluoedd arfog ar ôl yr Ail Ryfel Byd, felly doedd dim rheolaeth gan y dynion dros ble roedden nhw’n cael eu hanfon.

Image
Peter Williams ar y traeth ar Ynys y Nadolig. Llun: ITV Cymru
Peter Williams ar y traeth ar Ynys y Nadolig. Llun: ITV Cymru

Yn 18 oed, fe wnaeth Peter Williams adael fferm ei deulu yn Llandeilo i wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol. 

Cyn hir, cafodd ei anfon filoedd o filltiroedd i ffwrdd i Ynys y Nadolig yn y Môr Tawel.

Roedd dyletswyddau Peter yn cynnwys mynd i mewn i’r parth profi yn syth ar ôl y ffrwydrad i adfer camerâu ffilm o fynceri.

Fe wnaeth ddisgrifio lefelau ymbelydredd mor uchel nes i fesuryddion Geiger fynd y tu hwnt i ben y raddfa. Roedd yn gwneud hyn heb ddillad nac offer addas i’w amddiffyn rhag effeithiau’r ymbelydredd.

“Gyd oedden nhw’n gwisgo oedd siorts, boots ar eu traed, dim byd ar eu llygaid nhw, dim menyg,” meddai Carol.

Fe aeth Peter Williams yn ôl i Ynys y Nadolig yn 2003 fel rhan o raglen Y Byd ar Bedwar. Fe ddywedodd ar y pryd mai'r cyngor yr oedd wedi ei roi iddo oedd troi ei gefn, cau ei lygaid a’u gorchuddio â’i ddwylo pan oedd y bomiau’n ffrwydro.

“O’n i’n gallu gweld ein esgyrn trwy’n ddwylo i, fel X-ray,” meddai.

Image
Ffrwydrad ar yr ynys yn 1957
Ffrwydrad ar yr ynys yn 1957

Yn 2003, cafodd Peter ddiagnosis o ganser, ac fe fu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd yn credu bod ei salwch wedi ei achosi gan ei amser ar Ynys y Nadolig.

“Roedd fy nhad i’n siŵr iawn taw yr ymbelydredd oedd wedi cael effaith ar ei iechyd e, a ‘na pam oedd e’n dost,” meddai Carol.

“Dw i'n grac iawn gyda'r Llywodraeth. Dydyn nhw ddim wedi delio gyda fe o gwbl, dydyn nhw ddim yn cydnabod bod y dynion hyn wedi cael salwch ofnadwy achos yr ymbelydredd hyn.

“Fi'n croesi bysedd y bydd Andy Burnham yn edrych mewn iddo fe, a bod e yn rhoi iawndal i'r cyn-filwyr hyn, ond does dim llawer o ffydd gyda fi."

Ymchwiliad cyhoeddus

Mae’r Aelod Seneddol Chris Evans yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i brofion niwclear gafodd eu cynnal ar Ynys y Nadolig yn y 1950au.

Mae Mr Evans wedi bod yn ymgyrchu dros gyn-filwyr a gafodd eu hanfon i Ynys y Nadolig ers iddo gael ei ethol i Senedd San Steffan yn 2010.

“Dwi’n meddwl ei fod ddim llai ‘na sgandal,” meddai wrth Y Byd ar Bedwar.

“Mae’n rhaid meddwl am y cyn-filwyr a wnaeth dioddef yn y lle cyntaf, doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn cael ei brofi.

“Dwi’n meddwl ein bod angen ymchwiliad genedlaethol i wneud yn siwr nad yw hyn yn digwydd eto.

“Ni yw’r unig wlad yn y byd sydd heb sefydlu rhyw fath o gynllun iawndal.”

Ymateb Llywodraeth y DU

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y Llywodraeth yn cydnabod y cyfraniad arwyddocaol y mae’r cyn-filwyr wedi ei wneud i ddiogelwch Prydain, ac yn parhau i’w wneud.

“Mae’r Llywodraeth yn parhau i ymrwymo i ymwneud yn agored gyda’r gymuned, gan gynnwys y Prif Weindog a’r Ysgrifennydd Amddiffyn yn cyfarfod yn ddiweddar gyda chymdeithas y cyn-filwyr, Labrats.

"Wrth i’r gwaith yma barhau, bydd ein ffocws ar dryloywder, ateblorwydd ac adeiladu hyder ymhlith cyn-filwyr a’u teuluoedd.”

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Profion niwclear: Cymylu’r gwir? ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.