Menyw yn brwydro dros 20 mlynedd am ddiagnosis endometriosis
Menyw yn brwydro dros 20 mlynedd am ddiagnosis endometriosis
Mae menyw o dde Cymru am ddefnyddio mis o godi ymwybyddiaeth am gyflwr gynacolegol sydd yn effeithio ar un ymhob 10 o fenywod yn y Deyrnas Unedig, er mwyn sicrhau gwell triniaeth i gleifion.
Fe gymrodd hi 20 mlynedd i Bethan Jenkins o Gwmaman i dderbyn diagnosis o endometriosis, a hynny wedi taith hir ers iddi ddioddef mislifau poenus yn ei harddegau.
Mae Ms Jenkins yn honni nad oedd wedi cael ei chymryd o ddifri’, gan dderbyn pum triniaeth laporoscopy a ddangosodd canlyniad ‘normal’ bob tro.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "endometriosis yn faes blaenoriaeth yn ein Cynllun Iechyd Menywod ac rydym yn gweithio i sicrhau cydnabyddiaeth ac ymateb gynt i symptomau menywod."
"Rydym wedi ariannu nyrs endometriosis ym mhob bwrdd iechyd, wedi creu gwefan Endometriosis Cymru, ac wedi darparu £50m i helpu i leihau'r aros hiraf," medden nhw.
Ond dywedodd Ms Jenkins: “O'dd doctoriaid yn gweud 'tho fi "periods are painful. Have you tried having a baby?" sy'n gwestiwn rili ansensitif i ofyn i rywun sy'n meddwl bod endometriosis gyda nhw.
"Ond un peth fi’n sylwi nawr wrth edrych ‘nôl yw bod doctoriaid ddim yn dda iawn am joino'r dots rhwng symptomau, so dyw endometriosis ddim yn glefyd jyst y mislif.
"So os mae rhywun yn mynd at y meddyg gyda bowel issues, maen nhw fel arfer yn cael eu fobio off gyda 'it's probably IBS'. A oedd lot o bethau fel 'na yn digwydd i fi, am flynydde 'nes i roi lan, a 'nes i actually dechre amau symptomau fy hun, a meddwl bo’ fi jyst ddim yn delio yn dda iawn gyda poen.”
Pan ddaeth Ms Jenkins o hyd i feddyg mewn clinig preifat, derbyniodd hi ddiagnosis o endometriosis cam 4 o fewn tair wythnos. Ac er ei bod hi o’r diwedd yn derbyn atebion, mae ei meddwl hi gyda gweddill y gymuned sydd yn dal i frwydro.
“Ydy e actually wedi cyrraedd y pwynt lle ni'n gorfod mynd i A&E mewn cymaint o boen bo' ni ffaelu cerdded i gael ein cymryd o ddifri'?" gofynnodd.
"Ydyn ni'n gorfod arddangos y poen 'na yn ffisegol i gael ein cymryd o ddifri'?”
Dywedodd Elin Bartlett, sydd yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, “Ma' Endometriosis UK newydd ddod allan efo ystadegau bod yr amser cyfartalog am ddiagnosis o endometriosis wedi cynyddu i naw mlynedd a phedwar mis, sy’ ‘di cynyddu o wyth mlynedd yn gyfartalog yn 2020, yn y maes yma, drwy wir bwysleisio yr ymchwil o gwmpas endometriosis.”
Parhau i godi ymwybyddiaeth mae Bethan, fel bod eraill yn cael gwell profiad na ei un hi.