Menyw o’r Fenni’n helpu eraill ar ôl byw ag anhwylder bwyta

Rhiannon Morgan.jpg

Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai. 

Mae menyw o'r Fenni oedd yn byw ag anhwylder bwyta bellach yn gweithio gyda'r cydweithwyr a wnaeth ei helpu i wella. 

Fe gafodd Rhi Rennie-Morgan ddiagnosis o anorecsia yn 19 oed.

"Fe ddaeth o allan o nunlle," meddai wrth Newyddion S4C.

"O'n i yn y brifysgol, ac fe es i ar 'chydig o ddeiet a wnaeth arwain at gyfri calorïau'n rheolaidd a wedyn mi wnaeth o ddatblygu i'r anhwylder."

Fe lwyddodd Rhi i wella o'r anhwylder gyda chymorth ei theulu, ond fe wnaeth ddychwelyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

"Bu farw fy nhad pan o'n i'n 21 oed a dyna lle wnaeth pethau ddechrau gwaethygu ac fe es i'n sâl iawn," meddai.

"Roeddwn i'n ceisio anwybyddu'r ffaith fod yr anhwylder bwyta wedi dychwelyd a nes i ddim chwilio am help.

"Oedd rhaid i fi fynd i'r ysbyty a dyna lle ges i gymorth gan y tîm dwi bellach yn gweithio iddyn nhw."

Mae Rhi bellach yn gweithio fel gweithiwr cymorth gyda thîm anhwylder bwyta Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. 

"Mae'n teimlo fel cylch llawn. Pan o'n i'n wael, ro'n i'n gofyn 'Pam fi?' ond bellach dwi'n teimlo fod gen i bwrpas, a dwi'n caru gweithio gyda'r cydweithwyr wnaeth fy helpu oherwydd dwi'n gallu rhoi yn ôl iddyn nhw rŵan hefyd."

'Anodd iawn eu deall'

Mae Rhi yn teimlo ei bod hi'n hollbwysig cael rhywun sydd yn deall yr hyn mae person sy'n byw ag anhwylder bwyta yn ei wynebu.

"Mae anhwylderau bwyta mor gymhleth ac yn anodd iawn eu deall felly mae cael rhywun sy'n deall yn bwysig," meddai. 

"Dwi'n meddwl y gobaith hefyd achos dwi'n teimlo fod pobl yn meddwl nad oes modd gwella o anhwylder bwyta weithiau felly mae cael rhywun sydd wedi gwella yn dangos fod hynny yn bosib."

"Fe wnaeth fy rhieni i helpu gymaint pan ges i'r diagnosis am y tro cyntaf, ac yr ail waith, fe wnes i gwrdd â fy ngŵr tra'n wael, ac roedd o mor gefnogol wrth fynd â fi allan i lefydd a dangos nad oedd angen i fwyd fod yn danwydd yn unig. 

"Yn amlwg mae hynny yn bwysig ac o'n i eisiau bwydo fy nghorff ond hefyd nes i ddysgu i fwynhau bwyd hefyd."

'Mor bwysig'

Mae angen codi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta yn ôl Rhi. 

"Mae mor bwysig i godi ymwybyddiaeth achos maen nhw'n beryg," meddai. 

"Dydyn nhw ddim jest am bwysau a siâp rhywun - dydych chi ddim yn gallu edrych ar rywun a dweud bod ganddyn nhw anhwylder bwyta. 

"Mae unrhyw un o unrhyw siap a phwysau a maint yn gallu ei gael - mae'n gallu effeithio ar unrhyw un."

Mae Bev Williams yn Therapydd Galwedigaethol ac yn arbenigwr clinigol o fewn gwasanaeth anhwylderau bwyta Aneurin Bevan am bron i 15 mlynedd. 

"Os ydan ni'n edrych yn ôl i tua 15 mlynedd yn ôl, dwi'n meddwl fod cefnogaeth tuag at anhwylderau bwyta ar draws Cymru yn eithaf anghyson a phrin, ac mae llawer o waith wedi'i wneud i sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig o fath ar draws yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru," meddai wrth Newyddion S4C.

"Gydag Aneurin Bevan, rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau fod pobl yn ymwybodol ein bod ni yma a bod modd cael mynediad."

'Cynnig y gobaith'

Mae Ms Williams yn falch iawn o Rhi.

"Fel gwasanaeth, rydym ni yma i gefnogi a chynnig cymaint o gefnogaeth ag y mae’r unigolyn yn fodlon ei gymryd, ond Rhi oedd yr un oedd yn gorfod gwneud y newidiadau a'r gwaith," meddai.

"Dyna pam ein bod ni'n gwneud y swydd yma - 'dan ni'n cynnig y gobaith i bobl wneud newid er gwell a byw y bywyd y maen nhw eisiau ei fyw.

Ychwanegodd: "Felly mae eistedd yma gyda Rhi rŵan, mae'n fraint oherwydd mae'n adlewyrchiad o'r gwaith caled mae hi wedi ei wneud."

"Mae cael rhywun sydd wedi byw y profiad - mae o'n golygu eu bod nhw'n deall ac hefyd mae'n rhoi'r gobaith iddyn nhw.

Mae'r galw am y gwasanaeth wedi cynyddu yn ôl Ms Williams. 

"Mae'n anodd gwybod os ydi o'n tyfu oherwydd bod mwy a mwy o bobl yn dioddef o anhwylderau bwyta, neu ydi o'n tyfu oherwydd am y tro cyntaf erioed mae pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn haws ac mae mwy o bobl yn ymwybodol.

"Ond yn bendant, 'dan ni'n gweld cynnydd yn y galw."

Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael ar wefan Beat, elusen anhwylder bwyta'r DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.