Mellten yn achosi tân mewn tŷ yn Sir Gâr

Tan Glanaman

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn Sir Gâr yn hwyr nos Fercher wedi i fellten achosi tân yno.

Cafodd diffoddwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw o orsafoedd Rhydaman, Dyffryn Aman, Llandeilo a Threforys i'r digwyddiad mewn tŷ pâr yng Nglanaman am tua 23.30.

"Roedd yr eiddo wedi cael ei daro gan fellten a wnaeth gychwyn tân ar do'r eiddo," meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth.

"Defnyddiodd y diffoddwyr chwe set o offer anadlu, dau jet pibell ddŵr, tri camera delweddu thermol, ysgolion a bachau nenfwd i ddiffodd y tân."

Yn ôl y gwasanaeth, roedd "difrod tân sylweddol" i'r eiddo, gyda'r fflamau hefyd wedi lledaenu i'r tŷ drws nesaf.  

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r Grid Cenedlaethol hefyd eu galw i ymateb i'r digwyddiad.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ac fe wnaeth y gwasanaethau brys adael y lleoliad am 02.45am ddydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.