Sir Gâr: Arestio bachgen 13 oed wedi i fachgen 11 oed ddioddef anafiadau difrifol mewn tân
Mae bachgen 13 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i fachgen 11 oed ddioddef anafiadau difrifol mewn tân mewn clwb rygbi yn Sir Gâr.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i adroddiad o dân yng Nghlwb Rygbi Trimsaran am tua 18.15 ar ddydd Sadwrn 23 Mai.
Fe wnaethon nhw ymateb i honiad fod tân wedi'i gynnau'n fwriadol mewn caban storio, gan achosi difrod helaeth i'r caban a'i gynnwys.
Fe wnaeth bachgen 11 oed ddioddef anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad ac mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Cafodd bachgen 13 oed ei arestio ar amheuaeth o losgi bwriadol a cheisio llofruddio.
Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Lluniau: Clwb Rygbi Trimsaran
