Lois Medi yw'r ferch gyntaf i ennill dwy Gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd
Lois Medi yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Hi yw’r ferch gyntaf i ennill dwy Gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd.
Enillodd Lois y Gadair yn 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, sy’n golygu mai hi yw’r person cyntaf i ennill y wobr ar fwy nag un achlysur ers Gwynfor Dafydd yn 2016-17.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Manon Wynn Davies a Rocet Arwel Jones.
Dywedodd y beirniaid fod “pob cerdd yn y casgliad aeddfed a chyfoes yn haeddu ei lle ac yn cynnig sylwebaeth graff ac amserol ar gymdeithas heddiw".
Mae casgliad Lois yn archwilio’r bont rhwng bywyd go iawn a byd technoleg.
Roedd gofyn i’r ymgeiswyr lunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell, ar y thema “Pontio”.
Daeth 12 ymgais i law yn y gystadleuaeth.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Nanw Maelor o’r Wyddgrug, a Steffan Rhys Nicholas o Aberystwyth yn drydydd.
'Trefn'
Mae Lois ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Enillodd Lois ei chadair Eisteddfodol gyntaf tra’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor.
Aeth ymlaen i Ysgol Tryfan ac Ysgol Gyfun David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn graddio mewn Anthropoleg Gymdeithasol o’r LSE.
Dywedodd Lois bod ysgrifennu creadigol wedi bod yn "ddiléit" iddi ers yn blentyn.
"Mae barddoni yn gyfrwng arbennig i roi trefn ar fy meddyliau am y byd o’ fy nghwmpas," meddai.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi a’m hannog i fynegi fy nghreadigrwydd, yn arbennig fy rhieni, fy chwiorydd, Marged a Sara a fy nghariad, Iestyn.”
Dyfarnwyd Tlws D. Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas iddi yn 2024.
Mae Lois wedi cyhoeddi cerddi yn Ffosfforws, O Ffrwyth y Gangen Hon a Barddas, ac fe gafodd ei phryddest Gwrthryfela ei chyhoeddi gan Gyhoeddiadau’r Stamp.
Enillodd Lois Gadair Eisteddfod Trevelin a Gwobr y Delyn, prif wobr lenyddol Eisteddfod Porth Madryn, draw ym Mhatagonia y llynedd.
Cafodd y Gadair ei chreu gan y saer coed Siôn Edwards o Lanfaelog, yn seiliedig ar ddyluniad y pensaer Rhiannon Williams o Gaerwen.
Roedd y dyluniad yn seiliedig ar y thema “afonydd i’r môr”, ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd.
Mae darn o hen fad achub o Rosneigr, y Thomas Lingham y 4ydd, hefyd wedi’i ddefnyddio fel rhan o’r Gadair.
Dywedodd Siôn Edwards: “Mae rhan fach o hanes rhyfeddol y bad achub o Rosneigr bellach yn rhan o gadair Eisteddfod Môn hefyd.”
Cafodd y Gadair ei rhoi gan Gymdeithas Amaethyddol Môn, a noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.
Bydd y gwaith buddugol a’r feirniadaeth ar gael i’w darllen drwy Gyhoeddiadau’r Stamp ar ôl y seremoni.