Mam i efeilliaid o Lanelli sydd â chyflwr hynod o brin wedi marw

Lyn

Mae teyrnged wedi ei rhoi i fam i efeilliaid o Lanelli sydd â chyflwr hynod brin.

Roedd Lyn Fields yn gofalu am yr efeilliaid Catherine a Kirsty Fields, 32 oed, sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol mor brin nes iddo gael ei enwi ar eu hôl: ‘Cyflwr Fields’.

Mae’r efeilliaid yn dioddef o byliau poenus sy'n effeithio ar eu cyhyrau a'u gallu i siarad. Yn 2012 bu’r ddwy yn destun rhaglen ar S4C, Fy Chwaer a Fi.

Dywedodd Nichola Jones, a oedd yn gadeirydd y gronfa oedd yn codi arian i’r chwiorydd, bod eu mam Lyn Fields wedi marw ddydd Mawrth gyda’i gŵr Chris wrth ei hochr wedi brwydr â chanser.

“Fe gyffyrddodd Lyn â chalonnau cymaint o bobl dros y blynyddoedd, a does dim amheuaeth gennym y bydd gennych chi gymaint o atgofion hyfryd i’w rhannu,” meddai.

“Fel y gallwch ddychmygu, mae hyn wedi gadael bwlch enfawr yng nghalonnau pob un ohonom, ond hefyd gymaint o atgofion arbennig y byddwn yn eu trysori am byth.”

Mae cronfa godi arian oedd ar gyfer y ddwy chwaer wedi ei hail-agor er mwyn cefnogi'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Llun: JustGiving

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.