Cwmni bysiau o Loegr yn ymddiheuro am achosi 'anhrefn llwyr' ar Bont Menai

pont y borth.jpg

Mae cwmni bysiau o Loegr wedi ymddiheuro am achosi'r hyn y maen nhw wedi ei ddisgrifio fel "anhrefn llwyr" ar ôl i un o'u bysiau oedd yn llawn ymwelwyr groesi Pont Menai ddydd Mercher, gan arwain at gau'r bont am yr ail dro'r un diwrnod.

Roedd y bont sy'n cysylltu Môn gyda'r tir mawr wedi cau unwaith yn barod y diwrnod hwnnw am fod cerbyd oedd yn drymach na'r terfyn pwysau presennol o 7.5 tunnell wedi ei chroesi.

Ond ychydig wedi 13:00 fe wnaeth bws cwmni Warringtons Coaches o Sir Derby ei chroesi hefyd, gan arwain at gau'r bont eto.

Arweiniodd hyn at drafferthion teithio sylweddol yn yr ardal, gyda Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi nos Fercher y byddai goleuadau traffig mewn grym ar y bont nes diwedd Eisteddfod yr Urdd ym Môn ddydd Gwener.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fercher, dywedodd rheolwr cwmni bysiau Warringtons, Keith Warrington, ei fod am ymddiheuro'n bersonol am yr "anhrefn llwyr" oedd wedi ei achosi "gan un o fy mysiau yn croesi Pont Menai a'r anhrefn a wnaeth achosi ym Môn.

Dywedodd ei fod wedi siarad gyda gyrrwr y bws, a'i fod wedi ei synnu gan nifer y galwadau bygythiol yr oedd wedi ei dderbyn ers y digwyddiad, "pan mai'r unig beth yr wyf yn ei wneud yw rhoi'r manylion a'r cyfarwyddiadau gorau posib."

"Ymddiheuriadau didwyll i bobl leol sydd wedi methu apwyntiadau ysbyty," ychwanegodd.

Aeth yn ei flaen i ddiolch i bobl oedd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth, gan ddweud ei fod wedi derbyn cyfeiriad cyswllt Rhun ap Iorwerth, yr aelod o'r Senedd dros yr ynys, meddai.

'Mwy rhagweithiol'

Mewn ymateb i'r bont yn cael ei chau dwywaith ddydd Mercher, mae arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn "fwy rhagweithiol" er mwyn atal i'r bont gael ei chau eto.

Roedd ar gau ddydd Mawrth hefyd am yr un rheswm ac ar un achlysur arall yn ddiweddar. Mae'r bont yn 200 oed eleni.

Dywedodd Mr Pritchard: “Rydym wedi annog ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy rhagweithiol gyda rheolaeth traffig dros Bont y Borth - yn enwedig yn ystod cyfnod Eisteddfod yr Urdd.

“Tra’n cydnabod rhwystredigaeth pawb, rydym unwaith eto’n annog gyrwyr i gydymffurfio’n llawn gyda’r cyfyngiadau er mwy atal tagfeydd ac anawsterau i bawb.”

Dywedodd AS Ynys Môn, Llinos Medi ei bod yn "hynod siomedig" bod y bont wedi gorfod cau am yr ail ddiwrnod yn olynol.

"Wrth ystyried pwysigrwydd yr wythnos hon i Ynys Môn o ran cynnal yr eisteddfod ar faes sioe Mona, mae hon yn sefyllfa rwystredig iawn," meddai.

"Ers sawl blwyddyn bellach, mae effaith problemau gyda’r bont ar bobl Ynys Môn a Gogledd Orllewin Cymru wedi bod yn ddifrifol, gan effeithio ar gymudwyr, busnesau lleol a gwasanaethau brys sy’n dibynnu ar rwydwaith trafnidiaeth ddibynadwy.

"Ni all y sefyllfa hon barhau. Mae'n rhaid gorfodi’r cyfyngiadau pwysau yn effeithiol, ac mae’n hanfodol bod cynllun clir a chynaliadwy yn cael ei roi ar waith i atal cau’r bont dro ar ôl tro."

Ychwanegodd y bydd yn cynnal trafodaethau gydag Aelodau’r Senedd i sicrhau bod datrysiad i’r broblem yn dod yn "flaenoriaeth" i Lywodraeth Cymru.

'Ateb amlwg'

Wrth siarad gyda Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod ar ôl i'r bont gau ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth y byddai trydydd croesiad dros y Fenai yn "ateb amlwg" i drafferthion teithio'r ardal.

"Beth sydd angen ei sicrhau wrth gwrs ydi bod y bont yn gallu agor eto mor fuan â phosib a bod y gwaith cynnal a chadw a thrwsio rŵan yn gallu digwydd mor fuan â phosib," meddai. 

"Ma’ ‘na gwestiwn arall wedyn wrth gwrs o wytnwch y croesiad a mae fy Llywodraeth i’n benderfynol o fwrw ati i chwilio am yr atebion sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gwytnwch yna ar gyfer y dyfodol."

"Be ‘dan ni’n chwilio amdana fo wrth gwrs ydi nid pont, ond bod yna wytnwch i’r croesiad," meddai. 

"Ma’ ‘na nifer o opsiynau, be sydd genna ni’r cyfle i neud rŵan wrth gwrs fel Llywodraeth ydi mynd ati yn syth, i neud yn siŵr bod yr atebion gorau er mwyn rhoi’r gwytnwch yna yn ei le yn cael ei weithredu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.