Melania Trump yn gwadu cysylltiadau â Jeffrey Epstein
Mae gwraig Arlywydd America, Melania Trump wedi gwadu bod â chysylltiadau gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein, gan ddweud wrth ohebwyr yn y Tŷ Gwyn fod angen i unrhyw honiadau sy'n cysylltu'r ddau "ddod i ben heddiw".
Mewn cyhoeddiad annisgwyl nos Iau, galwodd Mrs Trump am wrandawiadau cyngresol ar gyfer goroeswyr camdriniaeth Epstein.
Gwadodd hefyd wrth i sibrydion ar-lein awgrymu mai Epstein oedd wedi'i chyflwyno i Donald Trump, gan alw'r sylwadau fel "ymdrechion cas i ddisodli fy enw da".
Nid yw'n glir beth a ysgogodd y cyhoeddiad, gan nad oedd unrhyw arwydd blaenorol gan ei swyddfa y byddai'n gwneud unrhyw ddatganiad am Epstein, ac ni oedd swyddogion y Tŷ Gwyn wedi datgelu pa bwnc oedd Mrs am drafod nos Iau.
Dywedodd yn glir nad oedd wedi bod yn un o ddioddefwr Epstein, a'i bod wedi "croesi llwybrau" ag ef am gyfnod byr yn y flwyddyn 2000.
"Nid wyf erioed wedi cael unrhyw wybodaeth am gam-drin Epstein gan unrhyw un o'i ddioddefwyr," meddai.
"Nid oeddwn erioed yn rhan o unrhyw weithgaredd yn ymwneud â'e dyn, ac yn sicr ddmi yn gyfranogwr yng ngweithgareddau Epstein."
Fe aeth Mrs Trump ymlaen i wadu ei bod yn adnabod Ghislaine Maxwell, a oedd yn bartner i Epstein a sydd bellach yn y carchar.
