Agor cwest i farwolaeth dyn 20 oed o Bwllheli fu farw mewn gwrthdrawiad

Elis Alan Ogilvy-Bardsley

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn 20 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pwllheli ym mis Mawrth.

Bu farw Elis Alan Ogilvy-Bardsley o ardal Morfa'r Garreg yn y dref mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A499 rhwng Llanaelhaearn â'r Ffôr tua 22.10 ar 28 Mawrth.

Clywodd agoriad y cwest yng Nghaernarfon ddydd Gwener fod yr heddlu wedi derbyn sawl galwad y noson honno yn dweud fod gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd wedi digwydd yno. Mr Ogilvy-Bardsley oedd yr unig deithiwr mewn car Ford Fiesta du.

Dywedodd y Crwner Sarah Riley ei bod yn credu ei fod yn teithio i gyfeiriad y gogledd pan ddigwyddodd gwrthdrawiad â char Audi A3 coch.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad, ond bu farw Mr Ogilvy-Bardsley yn y fan a'r lle.

Mae patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, wedi cofnodi achos dros dro i'w farwolaeth fel "anaf difrifol i'w ben yn dilyn grym sylweddol".

Dywedodd Ms Riley: "Mae’r amgylchiadau’n parhau i gael eu hymchwilio gan Heddlu Gogledd Cymru. 

"Er bod y cwest wedi’i agor yn ffurfiol, mae wedi’i ohirio tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cwblhau.

"Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Elis."Ychwanegodd Ms Riley.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.