O Ferthyr i Dwrci: Dyn am gerdded 3,000 milltir er budd Cylch Meithrin

Heno
Jamie Bevan

Mae dyn yn cerdded dros 3,000 milltir o Ferthyr i Dwrci er mwyn codi arian i feithrinfa sy’n darparu gofal i blant ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fydd Jamie Bevan yn troedio llwybr o Gymru a thrwy Loegr, Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Serbia, Y Groeg a Thwrci, ble fydd yn cyrraedd terfyn y daith yn Istanbul.

Mae’n credu y bydd y daith yn cymryd hyd at bedair mis a hanner os yw’n llwyddo i gerdded 32 cilomedr y dydd.

Y rheswm dros ddechrau'r daith ar draws Ewrop yw i godi arian ar gyfer Cylch Meithrin y Gurnos, ym Merthyr Tudful.

Image
Jamie yn cychwyn ar ei daith
Jamie yn cychwyn ar ei daith o Gurnos (Llun: Heno)

Mewn cyfweliad ar raglen Heno, dywedodd Jamie: “Dwi'n edrych ymlaen at yr her o wneud e. Dwi ddim yn gwybod os yw'n bosib, ond dwi'm yn gwybod os ydw i’n gallu neud e.”

Cafodd Cylch Meithrin y Gurnos ei sefydlu tair blynedd yn ôl, gydag un plentyn yn unig. Bellach, mae’r feithrinfa yn gofalu am 35 o blant ac yn cyflogi saith aelod o staff.

Ychwanegodd Jamie: “Mae cael lleoliad fel Meithrin y Gurnos, lleoliad Cymraeg yng nghanol y gymuned, yn un o'r cymunedau mwyaf Ewrop o ran tai cymdeithasol ac yn y blaen, mae'r feithrinfa yn rhoi'r Gymraeg reit yng nghanol hwnna ac yn rhoi cyfleoedd i efallai plant bysai ddim wedi cael y cyfle o'r blaen i ddysgu'r Gymraeg ac i gael eu magu yn y Gymraeg.”

Mae chwaer Jamie, Myfanwy Harman, yn rheolwraig ar Gylch Meithrin y Gurnos.

“Mae'n rili bwysig. So pan nes i agor yma, oedd braidd dim Cymraeg lan ‘ma o gwbl.

“Mae yna lot fawr o Gymraeg lan ‘ma nawr a mae'r plant yn barod yn deall ac yn siarad eu iaith.

“Da ni’n ddiolchgar iawn i Jamie. Mae'r her yn absolutely fantastic.

“Gyda Jamie yn wneud stwff fel hyn, mae'n golygu bod ni'n gallu parhau i roi y cyfleoedd yma i blant.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.