Noson arall o frwydro gwaedlyd rhwng Israel a Hezbollah

Taflegryn yn taro Israel

Mae Israel a Hezbollah wedi bod cynnal noson o ymosodiadau ar ei gilydd yn y dwyrain canol, wrth i Arlywydd America feirniadu sut mae Iran wedi ymdrin â chulfor Hormuz.

Mae Israel yn ymosod ar lanswyr rocedi Hezbollah ac mae'r grŵp sydd wedi'i leoli yn Libanus yn ymosod yn ôl ar sawl targed o Israel.

Mae'r ymladd parhaus, a statws neu ran ddadleuol Libanus yn y cadoediad bregus rhwng Iran ac UDA, wedi bod yn creu tensiynau cyn i drafodaethau heddwch sydd wedi eu trefnu ar gyfer y penwythnos hwn.

Ddydd Iau, dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, fod Israel yn parhau i "daro Hezbollah yn galed" ac "nad oes cadoediad ar y gweill yn Libanus"

Yn y cyfamser, mae Arlywydd America Donald Trump wedi bod wrthi'n beirniadu sut mae Iran wedi ymdrin â sefyllfa'r culfor Hormuz - rhan allweddol o gytundeb y cadoediad dros dro rhwng Washington a Tehran.

Mewn cyfres o negeseuon trwy ei blatfform cyfryngau cymdeithasol ei hun, Truth Social, mae Trump yn dweud bod Iran yn gwneud "gwaith gwael iawn" o reoli'r llwybr masnach, lle mae 20% o olew y byd yn pasio drwyddo, ac mae wedi rhybuddio Tehran yn erbyn "codi ffioedd ar danceri sy'n mynd drwy'r culfor."

 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.