Marwolaeth Rhys Jenkins: Dyn sydd wedi'i gyhuddo o achosi ei farwolaeth yn 'barchus'
Mae llys wedi clywed bod dyn sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn arall mewn gwrthdrawiad ym Mhowys yn unigolyn "parchus" a "gonest".
Bu farw Rhys Jenkins, 41 oed, o Bowys, yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 i’r de o’r Trallwng ar 16 Tachwedd 2024.
Cafodd ei fab naw oed, Ioan, hefyd ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.
Mae Abubakr Yusaf, 31 oed, a'i frawd Umar Yusaf, 35 oed, o Fanceinion, yn gwadu achosi marwolaeth Mr Jenkins drwy yrru’n beryglus.
Mae Abubakr Yusaf hefyd wedi ei gyhuddo o yrru car heb yswiriant.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener ddatganiadau cymeriad gan gyfreithiwr y diffynnydd, Abubakr Yusaf.
Dywedodd fod y diffynnydd wedi bod yn rhan o brosiectau elusennol a chymunedol.
Ychwanegodd ei fod yn berson a gafodd ei fagu fel person "meddylgar a charedig."
'Colli gafael'
Mae'r llys eisoes wedi clywed bod y brodyr yn gyrru ceir Audi a BMW rhwng 18:00 a 18:30 pan fu farw Rhys Jenkins.
Wrth amlinellu achos yr erlyniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, David Mainstone, fod Abubakr Yusaf wedi colli rheolaeth ar gar BMW ar ôl gyrru’n gyflym a goddiweddyd yn beryglus.
Doedd gan Mr Jenkins ddim cyfle i osgoi y gwrthdrawiad ac roedd o a'i fab Ioan wedi "talu pris ofnadwy" meddai'r erlyniad.
Yna, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, dywedodd y brodyr eu bod “yn credu eu bod yn goddiweddyd yn ddiogel.”
Wrth gael ei groesholi gan David Mainstone ar ran yr erlyniad, fe wnaeth Abubakr Yusaf fynnu nad oedd yn "ddiamynedd tra'n gyrru" a nad oedd yn credu ei fod yn "dychryn neb ar y ffordd.”
Dywedodd Mr Mainstone wrth Abubakr Yusaf: "Fe wnaethoch chi golli rheolaeth. Ai'r rheswm dros hynny yw eich bod yn gyrru ar gyflymder gormodol?"
Fe wnaeth Abubakr anghytuno.
Ychwanegodd ei fod wedi "colli gafael" ar y ffordd oherwydd "newid sydyn yn arwynebedd y ffordd."
Fe fydd yr achos yn parhau yr wythnos nesaf.
