Maes awyr Manceinion y gwaethaf am oedi cyn hediadau

Maes Awyr Manceinion

Maes Awyr Manceinion yw'r gwaethaf yn y Deyrnas Unedig am oedi i hediadau sy'n gadael oddi yno, gyda Maes Awyr Caerdydd yn yr 11eg safle ar y rhestr.

Roedd hediadau o Fanceinion ar gyfartaledd 19 munud a 30 eiliad yn hwyr yn 2025, yn ôl asesiad yr Awdurdod Hedfan Sifil, sydd wedi cael ei ddadansoddi gan asiantaeth newyddion PA.

Roedd hynny'n fwy o oedi nag mewn unrhyw faes awyr arall yn y DU, er bod gwelliant o 30 eiliad o gymharu â 2024.

14 munud a 54 eiliad oedd hyd yr oedi ar gyfartaledd ym Maes Awyr Caerdydd.

Yn aml, mae oedi oherwydd rhesymau sydd y tu hwnt i reolaeth meysydd awyr, fel problemau sy'n effeithio ar reoli traffig awyr neu dywydd gwael.

Hon yw'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Faes Awyr Manceinion fod ar frig y rhestr.

Maes Awyr Birmingham oedd yn ail ar y rhestr gydag oedi ar gyfartaledd o 18 munud a 42 eiliad.

Roedd Maes Awyr Bryste fymryn yn well na Chaerdydd ar 14 munud a 36 eiliad.

Maes Awyr John Lennon yn Lerpwl a berfformiodd orau, gydag oedi o naw munud a 24 eiliad ar gyfartaledd.

Dydy hediadau a gafodd eu canslo ddim wedi cael eu cynnwys yn yr ystadegau.

Mae modd i deithwyr hawlio iawndal hyd at £520 gan gwmni hedfan os yw'r rheswm am unrhyw oedi o fewn rheolaeth y cwmni, er enghraifft nam ar awyren neu salwch ymhlith peilotiaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff AirportsUK fod teithwyr yn "elwa o welliant yn y gwasanaeth y maen nhw'n ei dderbyn" a bod yr oedi yn 2025 "gryn dipyn yn llai na'r flwyddyn flaenorol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.