‘Mae pawb yn grac tu hwnt’: Problemau cyflenwad dŵr yn taro cymunedau’r gorllewin
Mae nifer o gymunedau yng ngorllewin Cymru wedi cael problemau gyda'u cyflenwadau dŵr yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth i'r ardal gael ei dynodi fel un sydd yn wynebu cyfnod hir o dywydd sych.
Mae yna drafferthion wedi bod ym mhentrefi fel Llanarth, Mydroilyn, Pontgarreg ac Efailwen.
Mae'r defnydd o bibelli dŵr gan gwsmeriaid wedi cael eu gwahardd yn yr ardal oherwydd y tywydd sych.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru bod y cwmni wedi trwsio 150 o bibelli oedd yn gollwng yn ne a chanolbarth Ceredigion ers dechrau mis Gorffennaf a bod 12 o danceri ar gael i gefnogi'r cyflenwad dŵr.
Mae Ceindeg Evans yn byw ger pentref Pontgarreg, ac mae hi'n dweud bod yna drafferthion rheolaidd wedi bod gyda'r cyflenwad lleol ers rhai blynyddoedd.
Fe gollwyd y cyflenwad yn llwyr ddydd Sul diwethaf yn ystod y tywydd poeth.
"Fe brynon ni y tŷ yn 2023 ac ers hynny se ni'n dweud bod ni'n cael texts yn wythnosol gan Dŵr Cymru i ddweud bod argaeledd y dŵr, a'r cyflenwad yn cael ei droi i ffwrdd."
"Mae fe'n neud bywyd o ddydd i ddydd yn anodd, wrth gwrs. Ni methu defnyddio'r tai bach. Ni'n gweithio yn llawn amser a trio cael y ferch i'r ysgol. Mae cael cawod yn broblem. Y pethau o ddydd i ddydd sydd yn anodd."
"Buon ni heb ddŵr o'r dydd Sul hyd pnawn dydd Mawrth. Roedd hynny yn golygu dau ddiwrnod heb ddŵr yn y tywydd twym iawn. Roedd e'n annymunol ofnadwy."
"Mae'r pibelli sydd wedi cael eu gosod yn yr ardal eu gosod dan ddaear tua 1956 a heb gael eu hadnewyddu ers hynny. Mae yna broblemau achos mae'r peips mor hen."
"Ni'n rhagweld mai fel hyn fydd hi yn y dyfodol os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud am y pibelli. Mae pawb yn grac tu hwnt. "
Mae'r trafferthion wedi effeithio ar fusnesau lleol hefyd. Mae Sheila James yn rhedeg maes carafanau Gilfach ym Mlaencelyn ger Llangrannog.
Dywedodd bod problemau gyda'r cyflenwad wedi effeithio ar ymwelwyr i'r maes.
"Mae'r tywydd wedi bod yn eitha pleserus ond os na wes dŵr mae'n eitha gwael. Y peips yn bostio a Dŵr Cymru ar ei hôl hi yn trio reparo nhw. Mae hi wedi bod yn eitha serious 'ma."
"Amser does dim dŵr yn dod mas o'r taps, maen nhw yn dechrau pryderu bod dim dŵr i gael paned o goffi a gorfod cario dŵr i fflysho toilets. So nhw'n lico pethau fel 'na."
Mae pentrefi fel Llanarth a Mydroilyn hefyd wedi gweld trafferthion.
Fe gollwyd y cyflenwad dŵr "am dridie" yn ôl Enid Davies sydd yn byw ym Mydroilyn. Roedd hi'n canmol ymdrechion Dŵr Cymru i ddosbarthu dŵr potel, ond yn dweud bod y sychder wedi cael effaith ar bibelli yn y ddaear.
"Maen nhw yn cael ffwdan achos bod sychder wedi bod yn y ddaear. Mae'r pridd wedi bod yn mynd bant o'r joints ac yn byrsto.
"Tri diwrnod oedd e. Fe wnaethon nhw eu gorau i ddod â dŵr i ni."
Mae hi'n dweud bod toriad yn y cyflenwad wedi cael effaith arni gan bod ganddi broblemau meddygol.
"Tipyn o drafferth i fi oherwydd medical issues. A'r oedran falle. A lot o olch yn y peiriant ond dim dŵr ynddo. Odd e'n horrendous," meddai.
"Bydd e yn bryder os mae'n cario mlaen. Mae'r sychder reit lawr. Se ni'n cael y glaw nawr mynd dros y top bydd e'n neud. Fi yn becso. Bydde well da fi fod heb electric!"
Dywedodd Dŵr Cymru: “Hoffem ymddiheuro i gwsmeriaid yn ardal Pontgarreg a gafodd eu heffeithio gan bibell ddŵr fawr a ffrwydrodd fore Sadwrn.
“Cafodd gwaith ei wneud i gyfyngu effaith y digwyddiad i bedair eiddo, ac adferwyd y cyflenwad i bawb erbyn prynhawn Sul.
“Bu problemau cyflenwi yn yr ardal oherwydd y cynnydd sylweddol yn y galw yn ystod y cyfnod hir o dywydd poeth.
"Mae’r gwres dwys a hirfaith hefyd wedi achosi i’r ddaear galedu a symud wrth iddi sychu, gan arwain at fwy o ollyngiadau a phibellau mawr yn ffrwydro yng Ngorllewin Cymru.
“Mae’r galw rydym wedi’i weld ar draws ein hardal weithredu wedi bod yn ddigynsail. Ar ddiwrnod arferol, rydym fel arfer yn cynhyrchu tua 850 o megalitrau o ddŵr y dydd.
"Eleni, aeth y galw dros 950 Ml/d am gyfnod hir, a dros 1,000 Ml/d am 10 diwrnod yn olynol.
"Rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio pibellau dŵr gardd yn ardal canol a de Ceredigion mewn ymgais i fynd i’r afael â’r cynnydd sydyn hwn yn y galw am ddŵr.
“Mae gweithfeydd trin dŵr hefyd wedi bod yn gweithio ar eu capasiti mwyaf; rydym wedi bod yn cludo dŵr o gwmpas y rhwydwaith gan ddefnyddio ein fflyd o danciau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ac yn anfon timau allan drwy’r amser i drwsio gollyngiadau ac ymateb i bwysau lleol ar y cyflenwad.”