Louis Rees-Zammit yn galw am wahardd caeau artiffisial yn dilyn anaf
Mae cefnwr Cymru a Bryste Louis Rees-Zammit wedi galw am wahardd caeau artiffisial yng ngemau rygbi Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe ddioddefodd losgiad ffrithiant difrifol yn ystod y gêm yn erbyn y Saracens ddydd Sadwrn diwethaf, gyda Bryste yn colli 30-7.
Mae clybiau'r Saracens, Caerloyw a Newcastle i gyd yn chwarae ar gaeau artiffisial.
Fe rannodd Rees-Zammit lun ar ôl y gêm ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe ddywedodd bod angen rhoi diwedd ar ddefnyddio caeau 4G.
"Fedrwn ni roi'r gorau i chwarae ar y caeau Astroturf yma? Gadewch i rywun wneud rhywbeth ynglŷn â hyn!" meddai.
Mae'r Saracens, un o glybiau rygbi mwyaf Lloegr, yn mynnu bod eu cae yn bodloni'r holl safonau diogelwch.
Daw hyn wedi iddi ddod i'r amlwg na wnaeth cyfarwyddwr rygbi Bryste Pat Lam ddewis tri o'i chwaraewyr allweddol dros y penwythnos oherwydd cyflwr y cae yng ngogledd Llundain.
Cafodd Pedro Rubiolo, AJ MacGinty a Steven Luatua eu gorffwys ar gyfer y gêm.
Dywedodd Pat Lam: "Fe gawson nhw anafiadau mawr y llynedd felly doedd e ddim werth eu rhoi nhw ar y cae.
"Pe bydden ni'n chwarae gêm gartref neu pe bai'n rownd gyn-derfynol, fe fyddan nhw wedi chwarae."
Dywedodd Prif Weithredwr y Saracens Ed Coetzee: "Yn dilyn y sylwadau diweddaraf am y cae yn Stadiwm StoneX, dyma'r ffeithiau.
"Mae'r cae yn dal tystysgrif ddilys Rheoliad 22 World Rugby tan 1 Ebrill 2028.
"Rydyn ni'n cymryd cyflwr y cae a lles chwaraewr o ddifrif, ac yn cadw'r arwyneb dan adolygiad cyson.
"Mater i 'r clwb yn ein herbyn yn unig yw pwy maen nhw'n ei ddewis, a byddai'n well gennym i'n cae gael ei gofio am y rygbi a gafodd ei chwarae arno, yn hytrach na'r esgusodion a gafodd eu gwneud wedyn."