Llywodraeth Cymru'n derbyn argymhellion ar gynyddu defnydd y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o 31 argymhelliad sydd â'r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor.
Mae'r argymhellion yn rhan o ail adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sy'n canolbwyntio ar ardaloedd lle mae cyfran ganolig neu is o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Ond er bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, nid yw ei datganiad yn nodi faint o gyllid ychwanegol, os o gwbl, fydd ar gael i'w gweithredu, nac amserlen benodol ar gyfer gwneud hynny.
Cafodd adroddiad y Comisiwn, Cyrraedd pob cymuned, cryfhau'r Gymraeg, ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
Yn ôl yr adroddiad, mae 54.8% o siaradwyr Cymraeg Cymru yn byw mewn ardaloedd lle mae dwysedd canolig neu is o siaradwyr yr iaith.
Mae'r argymhellion yn cynnwys creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol, gan gynnwys mewn clybiau chwaraeon, gweithleoedd ac ar-lein.
Galw am gynyddu cyllid
Roedd un o argymhellion y Comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y gyllideb ar gyfer adfywio'r Gymraeg ar lefel gymunedol.
Dywedodd y Comisiwn nad yw'r gyllideb bresennol yn ddigonol i gyflawni'r nod hirdymor o greu Cymru ddwyieithog.
Roedd hefyd yn argymell sefydlu cronfa i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg mewn mannau cymunedol, fel llyfrgelloedd a hybiau lleol.
Daw'r penderfyniad wrth i Lywodraeth Cymru barhau â'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 538,300 o bobl tair oed a hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, sef 17.8% o'r boblogaeth.
Roedd hynny'n ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011.
Wrth ymateb i adroddiad y Comisiwn ym mis Mawrth, dywedodd Cymdeithas yr Iaith ei bod yn "allweddol i ddyfodol y Gymraeg" fod yr argymhellion yn cael eu gweithredu.
Roedd cadeirydd y mudiad, Owain Meirion, hefyd wedi beirniadu Llywodraeth flaenorol Cymru am yr oedi wrth weithredu argymhellion adroddiad cyntaf y Comisiwn.
"Yn sicr, allwn ni ddim fforddio'r un oedi ag yr ydym wedi'i weld gan y llywodraeth bresennol gydag argymhellion yr adroddiad cyntaf," meddai ar y pryd.
'Iaith i Gymru gyfan'
Wrth gyhoeddi ymateb y Llywodraeth ddydd Mawrth, dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, ei bod am weld mwy o bobl yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
"Mae'r Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan. Mae’n perthyn i ni i gyd, waeth pwy ydyn ni, lle ydyn ni’n byw neu faint bynnag o Gymraeg sy gyda ni.
"Rydyn ni am fynd â'r Gymraeg at bobl lle maen nhw eisoes, a'i gwneud yn rhan o'r pethau maen nhw'n eu gwneud bob dydd, mewn clybiau a gweithgareddau lleol, ar y cae chwarae, drwy ddiwylliant, yn y gwaith ac ar-lein."
I gyd-fynd â'r cyhoeddiad, ymwelodd y Gweinidog â chlwb pêl-rwyd Cymric yng Nghaerdydd, lle mae aelodau'n defnyddio'r Gymraeg wrth chwarae a chymdeithasu.
Dywedodd hyfforddwraig y clwb, Megan Price, fod rhai aelodau wedi magu hyder wrth ddefnyddio'r iaith ar ôl peidio â'i defnyddio rhyw lawer ers gadael yr ysgol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yr argymhellion yn helpu i lunio strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, ochr yn ochr â gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn ardaloedd lle mae cyfran uwch o siaradwyr Cymraeg.
