Llywodraeth Cymru a’r Blaid Lafur yn dod i gytundeb ar y gyllideb atodol

Rhun ap Iorwerth yn y Senedd

Mae Llywodraeth Cymru a’r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol, ar ôl methu â gwneud hynny ym mis Gorffennaf.

Roedd trafodaethau ar y gyllideb atodol ar gyfer 2026-27 wedi chwalu bryd hynny dros faint o arian oedd wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae llywodraeth Plaid Cymru yn y Senedd yn un leiafrifol ac roedd y gallu i ddod i gytundeb â phleidiau eraill i basio cyllidebau yn brawf allweddol.

Ym mis Gorffennaf roedd Llafur wedi pleidleisio gyda aelodau Reform UK a'r Ceidwadwyr, gan drechu'r gyllideb o 49 pleidlais i 44.

Roedd Llafur wedi mynnu cael £100m dros ddwy flynedd ar gyfer ADY, tra bod y llywodraeth yn cynnig £70m.

Dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth bryd hynny ei fod wedi “dysgu gwersi” o’r profiad.

Cytundeb

Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Marwth ei bod bellach wedi dod i gytundeb â Llafur Cymru ar fuddsoddiad pellach ar gyfer ADY.

Bydd £60 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer ADY yn y flwyddyn ariannol hon, fel rhan o becyn buddsoddi ehangach a gafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Mehefin.

Bydd y gyllideb atodol yn cael ei gosod gerbron y Senedd ddydd Mawrth a bydd dadl arni ar 3 Tachwedd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, ddydd Mawrth fod y cytundeb yn “dangos yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni pan fydd pleidiau ar draws y Senedd yn gweithio gyda’i gilydd”.

“Bydd yn datgloi £60m ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon,” meddai.

“Bydd hefyd yn golygu y gallwn ni gyflwyno Cyllideb Atodol sy’n parhau â’n buddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd, ac mewn gofal plant a phrydau ysgol am ddim.”

Dywedodd Ken Skates AS, arweinydd Llafur Cymru, ei fod yn falch o fod wedi sicrhau £60 miliwn ychwanegol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol eleni.

“Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mae’n bwysig ei fod nawr yn cyflawni rhywbeth dros y plant a’r bobl ifanc sydd wirioneddol ei angen,” meddai.

“Mae hwn yn gam cyntaf i’w groesawu tuag at gyllido ysgolion yn well a sicrhau’r fargen orau bosibl i blant a phobl ifanc ledled Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.