Llys Apêl: Y penderfyniad i wahardd Palestine Action yn un cyfreithlon
Mae’r Llys Apêl wedi dyfarnu bod y penderfyniad i wahardd Palestine Action yn un cyfreithlon.
Daw wedi i dri barnwr yn yr Uchel Lys ym mis Chwefror benderfynu fod penderfyniad yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Yvette Cooper, i wahardd Palestine Action o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 y llynedd yn anghyfreithlon.
Roedd hynny’n dilyn her gyfreithiol gan gyd-sylfaenydd y grŵp, Huda Ammori.
Roedd y gwaharddiad, a ddechreuodd ar Orffennaf 5 y llynedd, yn gwneud aelodaeth o’r grŵp gweithredu uniongyrchol, neu gefnogaeth iddo, yn drosedd y gellid ei chosbi â hyd at 14 mlynedd yn y carchar.
Mae’r drosedd wedi parhau mewn grym wrth i’r Swyddfa Gartref geisio herio’r dyfarniad.
Yn y Llys Apêl ddydd Llun, dywedodd pum barnwr fod y gwaharddiad yn “gyfiawn a chymesur” â hawliau rhyddid mynegiant.
Dywedodd y Farwnes Carr, a oedd yn eistedd gyda Syr Geoffrey Vos, yr Arglwydd Ustus Edis, yr Arglwydd Ustus Lewis a’r Arglwyddes Ustus Whipple: “Mae gwahaniaeth rhwng mynegi barn neu gred sy’n gefnogol i amcan sefydliad… a mynegi barn neu gred sy’n gefnogol i sefydliad ei hun.”
Daeth y Farwnes Carr i’r casgliad: “Rydym yn cydnabod bod gwahardd sefydliad fel Palestine Action yn hynod ddadleuol.
“Rydym hefyd yn cydnabod bod Palestine Action yn cael ei gefnogi gan lawer o ddinasyddion sydd fel arall yn parchu’r gyfraith.
“Ond camgymeriad sylfaenol yw anwybyddu’r ffaith bod Palestine Action yn hyrwyddo trais anghyfreithlon sy’n gyfystyr â therfysgaeth, a hynny yn agored.
“Nid yw – fel yr honnir – yn grŵp protest anufudd-dod sifil gweithredu uniongyrchol fel y swffragetiaid, sy’n gweithredu’n dryloyw ac yn agored.
“Mae’n sefydliad cudd sy’n gweithredu gyda chelloedd cyfrinachol er mwyn osgoi canfod ac erlyn y rhai sy’n defnyddio trais i ddinistrio eiddo ac achosi anafiadau.”
Mae cannoedd o bobl wedi cael eu harestio mewn sawl gwrthdystiad ar ôl dal placardiau a gwisgo bathodynnau a chrysau-t yn datgan cefnogaeth i Palestine Action.
Roedd y Prif Ynad wedi atal achosion troseddol y rhai sydd wedi cael eu cyhuddo, cyn cynnal gwrandawiad adolygu ar Fehefin 30.

