Mae'r heddlu wedi darganfod corff dyn aeth ar goll mewn llyn yn Eryri nos Sul, yr ail gorff i gael ei ddarganfod yno yn yr wythnosau diwethaf.
Mewn datganiad brynhawn dydd Mercher dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff dyn yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan dîm achub tanddwr yr heddlu.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu’r dyn wedi cael gwybod, meddai'r llu.
Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod nhw wedi cael eu galw i ardal y llyn tua 19:10 ar 19 Gorffennaf.
'Colled'
Fore Llun, fe gafodd cwest ei agor i farwolaeth dyn arall oedd wedi mynd ar goll yn yr un llyn yn ddiweddar.
Y gred yw fod Rowan Booth, 21 oed, o Brestatyn wedi disgyn i mewn i Lyn Geirionydd tra'n ceisio sefyll i fyny ar ei badlfwrdd.
Clywodd y cwest yn Rhuthun nad oedd yn debygol fod Mr Booth yn gwisgo offer diogelwch er mwyn ei helpu i arnofio pan aeth i mewn i'r dŵr.
Dywedodd y crwner John Gittins fod yr heddlu wedi cael gwybod gan badlfyrddiwr arall ar noson 7 Gorffennaf fod Mr Booth yn boddi rhyw 20m o'r lan.
Daeth y Gwasanaeth Tân o hyd i gorff Mr Booth mewn dyfnder o 10 metr (dros 30 troedfedd).
Cafodd rheswm cychwynnol am ei farwolaeth ei gofnodi fel boddi.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gasglu mwy o dystiolaeth.
Mewn teyrnged i Rowan Booth ar-lein, dywedodd ei deulu: "Caiff Rowan ei garu am byth, bydd colled ar ei ôl bob un diwrnod, ac fe fydd yn aros yn ein calonnau am byth."