Llygod mawr wedi eu gweld mewn ysbyty yn y gogledd
Mae llygod mawr wedi eu gweld y tu mewn i Ysbyty Glan Clwyd yn y gogledd ddwyrain ar ôl "cnoi" drwy fylchau yn y waliau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau fod y llygod mawr wedi cael eu gweld yn yr ysbyty ym Modelwyddan.
Fe gafodd y llygod eu gweld yn adeilad Ivor Lewis, clinig asesu cyn llawdriniaeth. Mae'r adeilad ym mlaen yr ysbyty, gyferbyn â'r brif fynedfa.
Dywedodd cynghorydd y Rhyl, Brian Jones fod y sefyllfa yn "gwbl annerbyniol".
"Er fy mod yn cydnabod y ffaith fod fermin, yn benodol llygod mawr, yn broblem gyffredin ymhob agwedd o fywyd... mae clywed am hyn mewn lleoliad fel Glan Clwyd yn bryderus iawn. O'r hyn yr wyf i wedi ei glywed, nid yw'r camau sydd wedi eu cymryd yn ddigon da," meddai.
"Pe bawn i yn glaf, dwi ddim yn bersonol yn ofn llygod mawr, ond dwi'n gwybod am bobl a fyddai wedi eu harswydo'n llwyr o glywed fod yna bla llygod mawr yn Ysbyty Glan Clwyd."
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod wedi cymryd mesurau difa pla gan fynnu nad oedd "unrhyw dystiolaeth o bla".
Dywedodd cyfarwyddwr amgylchedd ac ystadau y bwrdd Stuart Keen: "Mae nifer fechan o adroddiadau o lygod mawr y tu mewn i adeilad Ivor Lewis yn yr ysbyty. Rydym wedi sefydlu mesurau difa pla ar draws y safle, gan gynnwys arolygiadau cyson a monitro.
"Mae safleoedd ysbytai mawr, yn benodol y rhai sydd mewn ardaloedd gwledig wedi eu hamgylchynu gan dir agored, yn gallu profi problemau yn ymwneud â phla er gwaethaf mesurau i atal hynny. Mae gennym brosesau clir i reoli hyn yn effeithiol pan mae'n digwydd."