Llwy bren arall i Gymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod
Mae Cymru wedi cael llwy bren arall ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod ar ôl colli 24-43 yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Roedd Cymru ar y blaen 19-17 ar yr egwyl wedi i Courtney Keight, Carys Cox a Kelsey Jones sgorio'r ceisiau, ond fe wnaeth ceisiau yn fuan yn yr ail hanner gan Sgorbini a Minuzzi olygu mai'r Eidalwyr aeth â hi yn y diwedd.
Mae'r golled yn golygu fod tîm Sean Lynn bellach wedi colli 10 gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad.
Mae Cymru wedi cael y llwy bren am y drydedd bencampwriaeth yn olynol hefyd.
Er y siom, mae arwyddion calonogol wedi bod yn y bencampwriaeth, gyda Chymru yn ymosod am gyfnodau yn erbyn Yr Alban a Lloegr, yn ogystal â chyfnodau cadarn yn erbyn Ffrainc.
Ond fe fydd y golled ddiweddaraf yn cynyddu'r pwysau ar Lynn yn dilyn sawl canlyniad siomedig.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd: "Yr hyn rydw i newydd ei ddweud wrth y chwaraewyr yw bod yn rhaid i ni fod yn well."
Dyma ail fuddugoliaeth Yr Eidal yn y bencampwriaeth, gan olygu eu bod nhw bellach yn y trydydd safle, ond fe fydd Lloegr, Ffrainc, Iwerddon a'r Alban i gyd yn chwarae brynhawn Sul.
Wedi pedair buddugoliaeth yn olynol, fe fydd yn rhaid i Loegr guro tîm corfforol Ffrainc yn Bordeaux ddydd Sul i gipio'r teitl.
Mae'r ddau dîm ar 20 pwynt ar hyn o bryd, ac fe fydd y gic gyntaf am 16:45.
