Pryderon busnesau am daliadau parcio newydd ar bromenâd Aberystwyth
Mae rhai busnesau ar bromenâd Aberystwyth yn pryderu wrth i daliadau parcio newydd ddod i rym yno ddydd Llun.
Bydd y taliadau yn berthnasol ar Rhodfa Fuddug, Glan y Môr a’r Promenâd Newydd, rhwng 08:00 a 20:00.
Bydd parcio am ddwy awr yn costio £3.50, a bydd pedair awr yn costio £5.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud mai nod y cynllun yw rheoli’r galw uchel am barcio ar lan y môr a gwella argaeledd llefydd ar gyfer ymweliadau byr.
Daeth 106 o wrthwynebiadau i law yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun, ond roedd rhai ymatebwyr hefyd yn gweld manteision posib i gyflwyno taliadau ar y promenâd.
Yn ôl un ymatebydd, doedd ganddyn nhw “ddim gwrthwynebiad penodol” i’r syniad o godi tâl am barcio ar y promenâd.
Roedden nhw’n ychwanegu eu bod yn credu y gallai’r taliadau fod yn “gadarnhaol” i Aberystwyth.
Roedd rhai hefyd yn dadlau y gallai codi tâl helpu i sicrhau bod mwy o lefydd parcio ar gael ar gyfer ymweliadau byr, yn hytrach na bod ceir yn cael eu gadael yno am gyfnodau hir.
Ond mae rhai busnesau ar y promenâd yn poeni y bydd y newid yn cael effaith negyddol ar ganol y dref.
Parcio am ddim
Dywedodd Richard Griffiths, perchennog Gwesty’r Richmond ar y promenâd, wrth Newyddion S4C ei fod yn poeni y bydd y taliadau’n effeithio ar fusnesau lleol ac ar weithwyr yn y dref.
“Dyw e ddim mor bwysig i dwristiaid, ond mae fe’n bwysig i bobl sy’n byw yn Aberystwyth sydd wedi bod yn parcio ar y prom am ddim ers blynyddoedd,” meddai.
Yn ôl Mr Griffiths, mae pobl leol wedi arfer defnyddio llefydd parcio ar y promenâd er mwyn “picio mewn i’r dre” i siopa neu ddefnyddio busnesau lleol.
“Os nad yw pobl yn mynd i ddefnyddio’r siopau a’r busnesau a’r swyddfeydd lleol, ac yn symud mas i’r archfarchnadoedd tu allan i’r dre i siopa, bydd rhai yn y dre yn gorfod cau, dod i ben neu symud.
“Fydden ni’n colli’r hyn sy’n gwneud trefi bach fel Aberystwyth yn sbesial.”
Dywedodd Mr Griffiths, yn ôl ei amcangyfrif ef, fod dros 100 o bobl yn gweithio mewn gwestai a busnesau ar hyd y promenâd, a bod y taliadau’n gallu creu problemau i staff sydd angen parcio ger eu gwaith.
“Mae’n gwneud i chi feddwl ar ddiwedd diwrnod caled, ‘Diawch, dwi newydd dalu £10 y dydd jyst i fynd i’r gwaith.’
“Dyw hynny ddim yn gwneud hi’n hwylus i unrhyw un fynd i’r gwaith.”
'Llawn'
Fe wnaeth Dion Davies, sy’n gweithio’n ddyddiol mewn busnes arall ar y promenâd, hefyd leisio pryderon wrth Newyddion S4C.
“Mae’r taliadau parcio yma ond yn mynd i greu haen arall o drafferth i ddod mewn i’r dref, i ddod i ymweld â’r dref ac i ymweld â glan y môr,” meddai.
“Mae e jest yn mynd i roi pobl off.”
Dywedodd Mr Davies ei fod yn credu y gallai unrhyw arian ychwanegol o’r taliadau gael ei golli yn y pen draw os bydd llai o bobl yn dod i ganol y dref.
“Bydd Aber yn dioddef yn y pen draw,” meddai.
Dywedodd hefyd nad oes digon o opsiynau parcio eraill ar gael i weithwyr ar lan y môr.
Yn ôl Mr Davies, fe edrychodd ar brynu tocyn tymor ar gyfer maes parcio Ffordd y Gogledd, sef y maes parcio agosaf ato ar lan y môr.
“Fe wnes i edrych ddau fis yn ôl ac roedd hwnna eisoes yn llawn dros yr haf. Felly does dim llawer o opsiynau.
“Byddai’n rhaid i fi barcio ymhellach mewn i’r dref, efallai mewn ardal breswyl, ond wedyn dwi’n effeithio arnyn nhw.
“Felly mae yna effaith domino enfawr.
“Na, does dim digon o barcio.”
Ychwanegodd fod llefydd parcio eisoes wedi eu colli ar rannau o’r promenâd.
“Mae darn cyfan o ffordd lle byddech chi’n gallu ffitio 20 neu 30 o geir wedi mynd,” meddai.
“Felly mae llai o lefydd i barcio, ac maen nhw wedi eich bottleneckio chi i orfod parcio lle mae’n rhaid talu nawr.”
Ymateb y cyngor
Wrth ymateb i bryderon y gallai’r taliadau atal pobl rhag ymweld â glan y môr, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod parcio ar hyd glan y môr yn Aberystwyth “mewn galw uchel” oherwydd ei leoliad canolog.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod bod hwn yn newid sylweddol, ond ein nod yw rheoli’r galw uchel iawn am barcio ar lan y môr yn fwy teg, gwella argaeledd ar gyfer ymweliadau byr, a chefnogi mynediad i ganol y dref i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr,” meddai llefarydd.
Dywedodd y cyngor mai bwriad cyflwyno’r taliadau yw cynyddu trosiant y lleoedd parcio sydd ar gael.
Ychwanegodd y llefarydd, “Pan fydd lleoedd parcio’n cael eu defnyddio am gyfnodau hir, gall hynny leihau mynediad i ymwelwyr sy’n dymuno mwynhau’r promenâd, y caffis a’r busnesau ar gyfer arosiadau byrrach.”
Mewn ymateb i bryderon am effaith y taliadau ar fusnesau lleol, dywedodd y cyngor nad oes “tystiolaeth gref” bod parcio am ddim neu barcio rhatach yn gwella iechyd canol tref neu nifer yr ymwelwyr.
“Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth yn awgrymu mai trosiant, hygyrchedd ac ansawdd y lle sy’n helpu canol trefi i ffynnu, ac y gall parcio am ddim gynyddu tagfeydd heb gynyddu gwariant,” meddai’r llefarydd.
Wrth ymateb i bryderon y gallai parcio gael ei symud i strydoedd preswyl cyfagos, dywedodd y cyngor fod y rhan fwyaf o’r strydoedd cyfagos eisoes yn elwa ar reolaethau parcio a chyfyngiadau aros presennol.
“Ar ôl cyflwyno’r cynllun, bydd y Cyngor yn parhau i fonitro patrymau parcio ac yn ymateb yn gymesur os bydd tystiolaeth glir o symudiad parcio yn dod i’r amlwg,” meddai.
Bydd deiliaid Bathodyn Glas yn gallu parcio am ddim os yw bathodyn dilys yn cael ei arddangos.
Bydd y cyngor yn monitro'r cynllun parcio newydd unwaith fydd ar waith.
Ond dywedodd y cyngor fod adolygiad ffurfiol yn annhebygol cyn blwyddyn ariannol 2027/28, oni bai bod materion penodol neu annisgwyl yn codi.
