Achosion Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo'n 'argyfwng iechyd rhyngwladol'

Ebola WHO

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi bod achosion o'r haint Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn Affrica yn argyfwng iechyd rhyngwladol.

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd y corff iechyd rhyngwladol fod y clefyd Ebola, sy'n cael ei achosi gan y feirws Bundibugyo yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac Uganda "yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol, ond nid yw'n bodloni meini prawf argyfwng pandemig."

Mae 80 o farwolaethau wedi bod yn y wlad hyd yma yn nhalaith Ituri, gan gynnwys yn ardaloedd Bunia, Rwampara a Mongbwalu.

Mae 246 achos arall sydd dan amheoaeth o fod yn gleifion sydd wedi eu heintio.

Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn wlad yng Nghanolbarth Affrica ac, o ran arwynebedd tir, yw'r ail wlad fwyaf ar y cyfandir.

Beth yw Ebola?

Mae clefyd Ebola yn salwch difrifol, ac yn aml yn angheuol mewn pobl.

Mae tri math gwahanol o feirysau yn gyfrifol am achosion o glefyd Ebola: feirws Ebola, feirws Swdan a feirws Bundibugyo.

Mae cyfradd y marwolaethau mewn achosion o glefyd Ebola'n tua 50%, gyda chyfraddau marwolaethau wedi amrywio o 25-90% mewn achosion yn y gorffennol.

Mae gofal cefnogol dwys cynnar yn hanfodol.

Dim ond ar gyfer un o'r feirysau (feirws Ebola) y mae brechlynnau ar gael ar hyn o bryd, ac maent yn cael eu datblygu ar gyfer y lleill.

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.