Rhieni yn enwi eu plentyn ar ôl bydwraig i ddiolch am ofal arbennig
Mae cwpl a dderbyniodd ofal gan fydwraig yn ystod genedigaeth gynamserol wedi enwi eu plentyn ar ei ôl fel ffordd o ddiolch iddo.
Mae Shania Jenkins a Liam John yn rhieni i Tobias Michael John.
Cafodd yr enw canol 'Michael' ei ddewis i ddiolch i'r fydwraig o Ysbyty Singleton, Michael Nixon, a helpodd y cwpl drwy gyfnod brawychus iawn.
“Gwnaeth ei garedigrwydd bopeth yn well… am ychydig ddyddiau wedyn, doedden ni ddim hyd yn oed yn gallu dweud enw Michael heb fynd yn emosiynol. A dyna pryd wnaethon ni’r penderfyniad i roi ei enw yn enw Tobi," meddai Shania.
Mae gan Shania fath prin o ddiabetes, ac roedd yn rhaid iddi gael ei monitro yn ystod ei beichiogrwydd.
Yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y pryd, fe aeth i Ysbyty Tywysoges Cymru am sgan arferol cyn cael gwybod y byddai'n rhaid iddi eni'r babi ar ôl 28 wythnos.
Cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Singleton, lle y cafodd gyffur i leihau'r siawns y byddai'r babi'n cael ei eni mor gynnar.
"Doedden nhw methu dweud yn sicr na fyddai'n dod. Ond fe weithiodd, ac fe arhosodd am chwe wythnos arall," meddai.
Ym mis Medi y llynedd, bu'n rhaid i Shania roi genedigaeth ar ôl 34 wythnos, ac wedi i Tobi gyrraedd, fe ddechreuodd Shania waedu.
Fe wnaeth y fydwraig, Michael Nixon, ynghyd â'r cofrestrydd obstetreg Dr Aishvarya Gupta stopio'r gwaedu, gyda Tobi yn cael ei drosglwyddo yn y cyfamser i'r Uned Gofal Dwys Newyddanedig.
Fe arhosodd Michael gyda Shania er mwyn ei monitro.
"Roedd o’n dda iawn am wybod beth oedd ei angen arna i heb i mi orfod dweud hynny. Roedd o’n gofalu am Liam hefyd. Roedd o mor garedig. Roedd y ffaith fod Michael yno yn gymaint o help," meddai.
Fe benderfynodd y cwpl i ddewis Michael fel enw canol fel ffordd o ddiolch i'r fydwraig.
Roedd Michael yn ddiolchgar iawn i'r rhieni wedi iddo ddysgu eu bod wedi enwi'r plentyn ar ei ôl.
"Mae'n rhywbeth na fydda i fyth yn anghofio, a dwi'n ei ystyried o'n fraint," meddai.
"Mae gwybod bod fy ngofal wedi gwneud gwahaniaeth yn ystod profiad brawychus yn brofiad hynod o arbennig."