Lluniau anweddus o blant: Rheithgor yn dechrau ystyried dyfarniad achos cyn-gynhyrchydd BBC Cymru
Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos cyn-gynhyrchydd BBC Cymru sydd wedi ei gyhuddo o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Mae Dylan Dawes, 50 oed yn wynebu tri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant, a thri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant ar bedair dyfais wahanol.
Mae Mr Dawes yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Fe wnaeth y Barnwr Eugene Egan anfon y rheithgar allan i ystyried eu dyfarniadau am 11:00 ddydd Gwener.
Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth dywedodd Harry Baker ar ran yr erlyniad bod 6,277 o ddelweddau anweddus o blant wedi cael eu darganfod ar ddyfais hard drive, gliniadur, a dau iPad oedd yn berchen i Mr Dawes.
Honni mae Mr Dawes fod "rhywun arall" wedi llwytho'r lluniau anghyfreithlon ar y dyfeisiau.
Dywedodd wrth y llys bod ei ddyfais hard drive a gliniadur, nad oedd angen cyfrinair i gael mynediad iddynt, yn cael eu gadael yn ei weithle “am gyfnodau estynedig."
Dechreuodd Mr Dawes weithio i'r BBC yn 2001.
Mae’r llys wedi clywed bod y lluniau wedi cael eu creu rhwng 31 Rhagfyr 2006 a 1 Mawrth 2022.
Roedd bron i 200 o’r lluniau yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
Roedd y gweddill yn lluniau wedi eu dosbarthu fel rhai categorïau B a C, sydd yn llai difrifol 'na delweddau categori A.
Wrth siarad â’r rheithgor cyn iddynt ddechrau ystyried eu dyfarniad, fe wnaeth bargyfreithiwr yr erlyniad fynnu fod Mr Dawes wedi ceisio dileu'r lluniau oddi ar y dyfeisiau, ond eu bod wedi gallu cael eu darganfod mewn archwiliad fforensig.
Ychwanegodd Harry Baker nad gweithred "ar hap" oedd bodolaeth y lluniau ar y pedair dyfais, ac mai Mr Dawes oedd yn gyfrifol am lawrlwytho neu lwytho'r lluniau anghyfreithlon i'r dyfeisiau.
Dywedodd Andrew Taylor ar ran yr amddiffyn wrth y rheithgor pe bai Dylan Dawes yn euog, fe fyddai wedi “llosgi neu ddinistrio’r” dyfeisiau fel nad oedd modd i’r heddlu ddod o hyd iddynt.
Fe aeth y bargyfreithiwr ymlaen i ofyn i'r rheithgor ystyried - a fyddai Mr Dawes wedi gadael deunydd â lluniau anweddus o blant ar ddyfeisiau fyddai'n gallu cael eu defnyddio gan ei wraig a'i blant pe bai'n ymwybodol ohonynt.
Fe adawodd y rheithgor, sy'n cynnwys pedwar dyn ac wyth menyw, y llys i ddechrau trafod eu dyfarniad.