S4C yn dod i gytundeb cyfreithiol gyda chyn Brif Swyddog Cynnwys y darlledwr

Llinos Griffin-Williams

Mae S4C a chyn-gadeirydd y sianel Rhodri Williams wedi dod i gytundeb â chyn Brif Swyddog Cynnwys y darlledwr.

Roedd Llinos Griffin-Williams yn ceisio hawlio dros £550,000 gan y darlledwr mewn achos cyfreithiol.

Fe gafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo am gamymddwyn difrifol ym mis Hydref 2023 wedi honiadau iddi ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru Mike Phillips tra yn feddw yng Nghwpan Rygbi'r Byd. 
 
Mae Ms Griffin-Williams yn parhau i wadu'r cyhuddiad. 
 
Ychwanegodd  bod ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C, a'r cyhoeddusrwydd ynghylch hynny wedi "dinistrio" ei gyrfa ym myd darlledu a'i bod wedi ei "gorfodi i ymgymryd â gwaith rhan-amser, hunangyflogedig."
 

Yn ôl dogfennau'r llys, roedd yn hawlio £565,000 mewn colledion o ran enillion. 

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd S4C fod y sianel "a Rhodri Williams, drwy eu hyswirwyr cyfatebol, wedi dod i gytundeb â Llinos Griffin-Williams. 

"Mae hyn yn dod â’r holl achosion gan Ms Griffin-Williams yn erbyn S4C a Rhodri Williams i ben.

"Mae telerau’r cytundeb yn gyfrinachol, ac mae’r setliad wedi’i gyrraedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd.

"Mae’r partïon wedi dod i’r casgliad ei fod er budd pawb i ddatrys yr anghydfod er mwyn osgoi achos cyfreithiol hirfaith. Maent yn falch o fod wedi cyrraedd datrysiad sy’n galluogi pawb i symud ymlaen."

Ychwanegodd y sianel na fyddan nhw yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar y mater. 

Ym mis Hydref y llynedd fe ddaeth S4C i setliad cyfreithiol gyda Siân Doyle, cyn brif weithredwr y darlledwr.

Dywedodd S4C mewn datganiad ar y pryd bod y setliad yn dod â holl achosion cyfreithiol Sian Doyle yn erbyn S4C a Rhodri Williams, cyn-gadeirydd y sianel, i ben.

Nid yw manylion union faint y setliad hwnnw wedi ei gyhoeddi chwaith ac roedd hwnnw hefyd "wedi’i gyrraedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd" meddai S4C.

Mae trydydd achos cyfeithiol wedi ei ddechrau yn ddiweddar gan gyn-aelod arall o staff S4C yn erbyn y sianel.

Amanda Rees yw'r trydydd cyn-uwch reolwr yn S4C i ddwyn achos uchel lys yn erbyn y sianel yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
 
Mae ei hachos yn seiliedig ar y cyhuddiad fod y darlledwr wedi methu "diogelu ei hiechyd, lles a diogelwch" tra'r oedd yn gyfarwyddwr cynnwys gydag S4C.
 
Mae Ms Rees wedi dweud ei bod yn cymryd y cam hwn "gan fy mod yn teimlo bod angen rhoi sylw cywir i'r materion" a bod hefyd angen "caniatáu i'r gwirionedd am yr hyn ddigwyddodd gael ei glywed" drwy gynnal achos llys sifil.
 
Nid oedd S4C am wneud unrhyw ymateb i ddatganiad diweddar Amanda Rees am ei phenderfyniad i ddwyn achos cyfreithiol.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.