'Llosgi bwriadol' ar fynydd ble mae tanau gwyllt yn llosgi

Glynrhedynog

Mae adroddiadau o losgi bwriadol ar fynydd yn ne Cymru ble mae tanau gwyllt wedi bod yn llosgi ers rhai dyddiau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddydd Mawrth eu bod yn credu bod tanau wedi’u cynnau’n fwriadol ar Fynydd Llanwynno yn Rhondda Cynon Taf nos Lun.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i gyfyngu a diffodd y tân gwyllt ar Fynydd Llanwynno yng Nglynrhedynog ac atal ymledu pellach, gan helpu diogelu eiddo a chymunedau gerllaw.

“Roedd adroddiadau o gynnau tân bwriadol ar y mynydd neithiwr.”

Mae swyddogion yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am unrhyw danau bwriadol ar y mynydd i gysylltu â Heddlu De Cymru.

Hofrennydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd wedi cymeradwyo cais am hofrennydd i gynorthwyo ymdrechion i ddiffodd y tân, ond mae oedi wedi bod cyn i’r hofrennydd gyrraedd y safle oherwydd niwl a rhagolygon am storm. 

Bydd CNC ac arbenigwyr awyrennau’n parhau i fonitro’r amodau er mwyn gwneud asesiad pellach dros ddefnyddio’r hofrennydd yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod Glynrhedynog wedi’i ddiogelu rhag y fflamau, a bod ymdrechion ddydd Mawrth wedi’u canolbwyntio ar ddiogelu ochr Cwmaman o’r mynydd, wrth i ymdrechion i gyfyngu’r tân mewn ardaloedd coediog barhau.

Ychwanegodd llefarydd: “Fe weithiodd criwiau tân drwy gydol y nos mewn amodau heriol i daclo’r tân a diogelu eiddo.”

Mae parth dim hedfan dros-dro wedi’i sefydlu dros yr ardal, er mwyn sicrhau diogelwch criwiau a dronau’r gwasanaeth tân.

Er bod glaw wedi bod dros y diwrnod diwethaf, dywedodd y gwasanaeth bod mwg yn dal i godi o’r safle, gan gynghori trigolion lleol i gadw ffenestri a drysau ar gau am resymau diogelwch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.