Un o ffilmiau eiconig Star Wars i gael ei dybio i'r Gymraeg

STAR WARS

Bydd y ffilm eiconig Star Wars: A New Hope yn cael ei dybio’n Gymraeg.

Fe fydd Star Wars: Gobaith Newydd yn cael ei darlledu ar S4C ac ar draws ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen. 

Cafodd y ffilm wreiddiol ei rhyddhau yn 1977 ac fe ddaw'r newyddion am ei dybio i'r Gymraeg cyn pen-blwydd y ffilm yn 50 oed yn 2027.

Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn arwain y cast yn y fersiwn Gymraeg newydd, gan gynnwys Matthew Rhys fel Han Solo, Rhys Ifans fel Obi-Wan Kenobi, ac Aimee-Ffion Edwards fel y Dywysoges Leia. 

Mark Lewis Jones, fu'n chwarae un o gymeriadau Star Wars: The Last Jedi, yw Darth Vader, tra bod Osian Morgan yn lleisio Luke Skywalker. 

Mae'r cast ehangach yng Nghymru yn cynnwys Llyr Ifans (C-3PO), Nia Roberts (Modryb Beru), Richard Harrington (Grand Moff Tarkin), Owain Arthur (Arweinydd Coch), a Rhodri Meilir (Arweinydd Aur).

Cyfarwyddwyd y dub Cymraeg gan Ellyn Stern a'i gynhyrchu gan Michael Kohn, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dosbarthu Lucasfilm.

"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y prosiect hwn am sawl rheswm," meddai Kohn. 

"Rydw i wedi bod yn rhan o ychydig o dubs ieithoedd brodorol o Star Wars dros y blynyddoedd sy'n anelu at gadw ac adfywio diddordeb mewn dysgu'r ieithoedd. 

“Maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus nid yn unig yn eu cymunedau ond yn rhyngwladol hefyd. Mae'r cyfle i ddathlu'r Gymraeg trwy Star Wars yn un na allwn ei golli."  

'Ehangu ein gwylio'

Mae cyd-lywydd Lucasfilm, Lynwen Brennan, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghymru, wrth ei bodd y bydd dathliadau hanner canmlwyddiant A New Hope yn cynnwys y dub unigryw yma o'r ffilm. 

"Mae gan Gymru hanes mor gyfoethog o adrodd straeon ac iaith delynegol hardd,” meddai.

“Nid ydym erioed wedi cael cyfieithiad o Star Wars i'r Gymraeg o'r blaen ac rwy mor ddiolchgar, ein bod wedi gallu gweithio gyda thalent anhygoel o Gymru i wireddu hynny, er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 50 oed. 

“O'r diwedd bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu mwynhau'r ffilm yn ein hiaith frodorol a fy ngobaith yw y bydd yn cael yr un effaith emosiynol â phe baech chi'n gwylio'r ffilm eto am y tro cyntaf."

'Sêr yn disgleirio'

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: "Mae'r sêr yn bendant yn digleirio ar y prosiect hwn. 

“Roeddem wrth ein bodd pan gysylltodd Lucasfilm â ni i bartneru ar gynhyrchu fersiwn Gymraeg o Star Wars: A New Hope

“Mae'n ffilm mor eiconig i gymaint o genedlaethau o gefnogwyr ledled y byd, felly rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw a Cymru Greadigol i wireddu'r uchelgais hon. 

“Mae'n gyfle gwych i hyrwyddo'r Gymraeg a'n hactorion talentog ar lwyfan rhyngwladol. Mae hefyd yn ategu ein strategaeth i ehangu ein gwylio drwy gynnwys anhygoel a'n dymuniad i helpu i gynhyrchu ffilmiau sinematig yn Gymraeg."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru: "Roedd Star Wars yn un o ffilmiau mwyaf dylanwadol fy mhlentyndod ac nid yw ei apêl yn dangos unrhyw arwydd o bylu, gan swyno cynulleidfaoedd hyd heddiw.

"Mae gweld fersiwn Gymraeg o'r ffilm eiconig hon, gan ddefnyddio doniau rhai o'n hactorion gorau, yn wych. Rydym eisoes yn cynhyrchu teledu a ffilm o'r radd flaenaf yma yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Star Wars yn Gymraeg yn ddiweddarach eleni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.