Yr Eisteddfod yn cynnal trafodaethau er mwyn ‘mynd i’r afael’ â defnydd posib AI mewn cystadlaethau

Yr Eisteddfod yn cynnal trafodaethau er mwyn ‘mynd i’r afael’ â defnydd posib AI mewn cystadlaethau

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Betsan Moses wedi dweud ei bod yn cynnal trafodaethau”mynych” er mwyn “mynd i’r afael” ag oblygiadau y defnydd posib AI mewn cystadleuaethau.

Mae AI yn yr iaith Gymraeg wedi datblygu i’r fath raddau dros y flwyddyn ddiwethaf fel nad oes modd i’r Eisteddfod osgoi gorfod ymdrin ag oblygiadau y dechnoleg, meddai arbenigwyr.

Dywedodd un arbenigwr wrth Newyddion S4C nad oedd yn "meddwl bod modd gwarchod yr Eisteddfod o ddefnydd AI".

Mae rheolau’r Eisteddfod yn nodi nad oes modd i gystadleuwyr ddefnyddio AI i greu cyfansoddiadau ‘oni nodir yn wahanol'.

Wrth ymateb, dywedodd Betsan Moses: “Ni wedi trafod gyda nifer o arbenigwyr AI, a beth maen nhw’n ei ddweud ydi bod y dechnoleg yn datblygu.

“Mae yna systemau yn cael eu datblygu gan rai o’n prifysgolion, a da’ ni wedi cael trafodaethau gyda rheini i weld, i wirio.

“Wrth gwrs, un o’r pethau rydan ni yn gofyn, fel gyda pob cystadleuaeth, y’n ni’n gofyn i’r cystadleuwyr i barchu y rheolau.

“I chi nodi mai eich gwaith gwreiddiol chi yw e ond gyda hynny y’n ni’n cadw ffydd yn ein cystadleuwyr eu bod nhw’n driw i’r broses.

“Ond y’n ni yn cael trafodaethau mynych gydag arbenigwyr er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud ar gyfer mynd i’r afael a hyn.”

Image
Yr Athro Cynog Prys AI Steddfod

Cadeiriwyd panel gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y Maes am ddefnydd AI gan Dr. Cynog Prys, Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dr. Prys: “Dwi’m yn meddwl bod modd gwarchod yr Eisteddfod o ddefnydd AI. 

"Ma’ AI yn mynd i fod yn ddarn o holl fyd technolegol ‘da’n ni’n eu defnyddio.

“Dwi ddim yn gwybod os oes ‘na fodd i wahardd hwn [AI], ond dwi ddim yn gwybod os ddylid cofleidio fo yn yr un ffordd ond i bobl fod yn agored o ran pa ddefnydd mae’n nhw wedi ei wneud o’r dechnoleg yma.”

Ychwanegodd: "Mae'n anodd iawn profi os mae rhywun wedi defnyddio AI a dwi’n meddwl dy fod ti’n gallu ei ddefnyddio fo mewn ffordd glyfar iawn.

“Er enghraifft bo chdi’n trio am y Goron neu’r Gadair, ‘sa chi’n gallu defnyddio’r dechnoleg yma am syniadau a ‘sa neb byth yn gallu profi ‘sa chi ‘di neud.”

Datblygiad AI yn yr iaith Gymraeg

Image
Dewi Bryn Jones AI Steddfod

Mae Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu bod “’na ffordd o ddefnyddio’r AI yma mewn ffordd newydd".

Wrth gyfeirio at allu AI gyda’r iaith Gymraeg, dywedodd ei fod wedi “datblygu yn aruthrol o gyflym".

“Ers 2022, mae o [AI iaith Gymraeg] wedi datblygu yn aruthrol o gyflym – mi ymddangosodd o gyntaf o nunlle hefyd, heb unrhywun yn gwybod, wedi cynllunio neu ariannu unrhyw beth yn ei gylch,"meddai.

Ychwanegodd fod “pobl wedi arbrofi ‘tybed ydy hwn yn gallu siarad Cymraeg a oedd, mi oedd, felly mae pobl wedi bod yn arbrofi a wedi bod yn gwerthuso modelau ers hynny.

“A mae’n nhw’n gweithio’n well os ‘da chi’n sgwrsio efo nhw neu gofyn iddyn nhw gwestiynau yn y Gymraeg yn y dechrau, nid cychwyn yn Saesneg ac yna dweud ‘oh I’d like this answer in Welsh please'.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.