Newid y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar i eithrio treiswyr a throseddwyr rhyw
Bydd troseddwyr sydd wedi’u dedfrydu am droseddau yn cynnwys treisio a camdrin rhyw difrifol yn erbyn plant a throseddau o feithrin perthynas amhriodol yn cael eu heithrio o gynllun newydd i ryddhau carcharorion yn gynharach, meddai Prif Weinidog y DU.
Bwriad y cynllun yw lleddfu’r pwysau ar garchardai drwy ryddhau rhai carcharorion yn gynnar. Roedd y cynllun fod i ddechrau ym mis Medi, ond mae Andy Burnham bellach wedi’i ohirio tan fis Hydref.
O dan newidiadau yn y Ddeddf Dedfrydu, roedd tua 6,000 o droseddwyr yn gymwys i gael eu rhyddhau ar ôl treulio traean o’u dedfryd, yn hytrach na hanner.
Byddai rhai sy’n treulio dedfrydau o bedair blynedd neu fwy hefyd yn gymwys i gael eu rhyddhau ar ôl hanner eu dedfryd, yn hytrach na dau draean.
Dywedodd Mr Burnham ei fod wedi gofyn am adolygiad brys o’r cynllun ar ôl clywed pryderon dioddefwyr.
“Rwy’n deall yn iawn y dicter, y pryder a’r gofid sydd wedi’u hachosi,” meddai.
“Dyna pam rydym yn gwneud newidiadau sylweddol. Bydd troseddwyr sydd wedi’u dedfrydu am dreisio, troseddau rhywiol difrifol yn erbyn plant a throseddau meithrin perthynas amhriodol eraill yn cael eu heithrio o’r newidiadau.”
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod “eisiau mynd hyd yn oed ymhellach”, ond nad oedd hynny’n bosibl heb i’r system garchardai gyrraedd ei chapasiti a “rhoi’r cyhoedd mewn llawer mwy o berygl”.
Bydd y troseddwyr hynny’n cael eu hychwanegu at y 18,000 sydd eisoes wedi’u heithrio, gan gynnwys carcharorion sy’n treulio dedfryd oes a’r rhai y mae llys wedi dyfarnu eu bod yn peri’r perygl mwyaf.
Bydd troseddwyr hefyd yn cael eu goruchwylio’n llymach ac am gyfnod hirach ar ôl eu rhyddhau, ac mae disgwyl i bob un wisgo tag electronig.
Bydd tagiau GPS yn cael eu defnyddio i gyfyngu ar symudiadau treiswyr, a bydd modd cyflwyno parthau y bydd troseddwyr wedi’u gwahardd rhag mynd iddynt.
Mae’r Llywodraeth yn wynebu beirniadaeth gan fod y rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth PC Andrew Harper yn 2019 yn parhau’n gymwys i gael eu rhyddhau’n gynnar.
Dywedodd ei weddw, Lissie Harper, ei bod “yn fwy na ffiaidd ac yn ferw o ddicter”, gan alw’r posibilrwydd y byddent yn cael eu rhyddhau yn “frad llwyr”.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Thames Valley, Jason Hogg, fod y penderfyniad i beidio â’u heithrio yn “digalonni pob swyddog heddlu”.
Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Fonesig Nicole Jacobs, hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio ag eithrio camdrinwyr domestig, gan ddweud ei fod yn peryglu bywydau dioddefwyr.
Mae pecyn cymorth gwerth £10 miliwn i ddioddefwyr wedi’i gyhoeddi, ynghyd â llinell gymorth genedlaethol newydd.
Bydd model newydd hefyd yn dod â rhyddhau awtomatig i ben ar gyfer carcharorion sy’n ymddwyn yn wael.
Gallai’r rhai sy’n torri rheolau neu’n ymddwyn yn dreisgar y tu ôl i fariau dreulio eu dedfryd gyfan yn y carchar.