Llanelli: Arestio nifer o bobl mewn cyrch heddlu
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi arestio nifer o bobl am fwrgleriaeth yn dilyn cyrch yn y dref ddydd Sadwrn.
Dywedodd y llu bod nifer o unedau arbenigol a rhai arfog wedi cynnal gwarantau arestio yn Stryd yr Orsaf.
Dywedodd y llu fod hyn yn rhan o ymgyrch oedd “wedi'i chynllunio ymlaen llaw, ac nid mewn ymateb i unrhyw ddigwyddiad brys parhaus yn yr ardal”.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi arestio dyn 37 oed, dwy fenyw, 21 a 26 oed, ar amheuaeth o fwrgleriaeth difrifol.
Cafodd dyn 39 oed ei arestio ar amheuaeth o drosedd trefn gyhoeddus.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Dros Dro Rhys Jones: “Rwy’n deall y gall gweithgaredd yr heddlu o’r natur hon fod yn destun pryder i aelodau’r gymuned, ac rwyf am ailadrodd mai gweithgaredd trefnus oedd hwn, ac nid oherwydd unrhyw fygythiad parhaus i’r cyhoedd.
“Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd a gydweithredodd â’n swyddogion yn ystod ymgyrch heddiw, a’r gymuned ehangach am eu hamynedd tra roeddem yn cynnal yr ymholiadau hyn.”