Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrnged i ddyn 'uchel ei barch'
Mae teulu dyn sydd wedi marw wedi rhoi teyrnged iddo, wrth i Heddlu Gwent gyhoeddi ei enw.
Dechreuodd Heddlu Gwent ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol mewn tŷ yn Nhrefddyn ger Pont-y-pŵl bnawn Iau am tua 16;55.
Roedd Nicholas 'Brian' Parfitt yn 74 oed ac yn dod o Drefddyn.
Mae teulu Mr Parfitt wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud: "Mae marwolaeth Brian wedi bod yn sioc i'r teulu a'r gymuned.
"Roedd yn dad a thaid annwyl ac yn uchel ei barch yn y gymuned."
Mae dyn 37 oed o Gwmbrân wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae teulu Mr Parfitt yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbennig.