Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych yn gynharach yr wythnos hon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Victoria yn y dref am 17.36 brynhawn dydd Llun 20 Ebrill yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Vauxhall Mokka a cherddwr.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn Stoke ar ôl dioddef anafiadau ond mae Heddlu'r Gogledd yn dweud ei fod bellach wedi marw.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Victoria ar y pryd ac a allai fod â lluniau dash-cam, i gysylltu â swyddogion gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000311780.