Donald Trump yn canslo taith ei gynrychiolwyr i drafodaethau heddwch
Mae Donald Trump wedi canslo taith dau o'i swyddogion i Bacistan ar gyfer trafodaethau heddwch gyda cynrychiolwyr o Iran.
Mewn neges ar ei gyfrwng cymdeithasol Truth Social dydd Sadwrn, dywedodd yr arlywydd: "Dwi newydd ganslo taith fy nghynrychiolwyr i Islamabad, Pacistan, i gyfarfod â'r Iraniaid.
"Gormod o amser wedi'i wastraffu ar deithio, gormod o waith!
"Ar ben hynny, mae yna ffraeo mewnol a dryswch aruthrol o fewn eu 'harweinyddiaeth'. Does neb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, gan gynnwys nhw.
"Hefyd, mae gennym ni'r holl gardiau, does ganddyn nhw ddim! Os ydyn nhw eisiau siarad, y cyfan sydd raid iddyn nhw ei wneud yw ffonio!!!"
Roedd Gweinidog Tramor Iran, Abbas Araghchi, ym Mhacistan yn barod, ond nid oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer cyfarfod uniongyrchol rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran, yn ôl Llefarydd Gweinyddiaeth Tramor Iran, Esmail Baqaei.
Roedd Araghchi ar fin cwrdd â "swyddogion lefel" uchel Pacistan ddydd Sadwrn, meddai Baqaei, tra bod cyfryngau gwladol Iran yn adrodd y gall Islamabad weithredu fel "pont" i "gyfleu ystyriaeth Iran i ddod â'r gwrthdaro i ben".
Roedd y Tŷ Gwyn wedi dweud yn gynharach bod llysgennad arbennig yr Unol Daleithiau, Steve Witkoff, a mab-yng-nghyfraith Donald Trump, Jared Kushner, yn mynd i Bacistan ar gyfer y trafodaethau ddydd Sadwrn, tra bod yr Is-lywydd JD Vance wrth law i ymuno yn y trafodaethau hynny.
Dywedodd Arlywydd Trump ddydd Gwener fod Iran yn "gwneud cynnig a bydd yn rhaid i ni weld", ond nad oedd yn gwybod eto beth oedd y cynnig hwnnw.
Ychwanegodd fod Iran eisiau siarad a dod i gytundeb posibl, a'i fod yn bwriadu gwneud cynnig sydd â'r nod o ddatrys gofynion yr Unol Daleithiau yn y gwrthdaro.
Llun: Reuters