Lilly Jones: Adnabod corff y ferch 14 oed yn ffurfiol

Lilly Blaina

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi bod corff merch yn ei harddegau a fu farw yn nhref Blaenau ger Abertyleri wedi ei adnabod yn ffurfiol.

Roedd Lilly Jones yn 14 oed ac fe aeth ar goll cyn i'w chorff gael ei ddarganfod wythnos yn ôl.

Dywedodd y llu bod eu “meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Lilly yn ystod yr amser anodd yma.”

Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi ei theulu, meddai'r llu.

Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac fe fydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach eleni.

Fe wnaeth y diffynnydd, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore dydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio Lilly ar 22 Mehefin.

Fe bennodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ddyddiad yr achos llys yn dechrau ar 23 Tachwedd, ac mae disgwyl iddo bara am bedair wythnos.

Cafodd y llanc, nad oedd wedi pledio i'r cyhuddiad o lofruddiaeth, ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf.

Cafodd ei arestio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn ardal Parc Dyffryn ym Mlaenau. 

Disgrifiwyd y bachgen, o ardal Blaenau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru, gan yr heddlu yn flaenorol fel bachgen Prydeinig gwyn.

Roedd Lilly yn fyfyriwr yn Ysgol Sylfaenol Brynmawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.