Eryri: Dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn 74 oed oedd ar goll
Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll yn Eryri.
Roedd yr heddlu, timau achub mynydd ac asiantaethau eraill yn chwilio am y dyn 74 oed o’r enw Gregor ers iddo fynd ar goll ar fore Iau 25 Mehefin.
Nid oedd neb wedi ei weld ers 10.15 y bore hwnnw pan barciodd ei gar yn Hostel Mynydd Eryri ger Bethesda.
Cafodd corff ei ddarganfod ar fynydd Carnedd Y Filiast toc cyn 16.00 ddydd Llun meddai Heddlu'r Gogledd.
Mae’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol fel Gregor, y dyn oedd ar goll.
Nid yw’r heddlu yn credu fod yna amgylchiadau amheus am y farwolaeth. Mae’r crwner wedi cael gwybod.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu'r Gogledd: “Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu Gregor yn ystod yr amser anodd hwn.
“Diolch i asiantaethau partner, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd yn ein chwiliadau dros y penwythnos a heddiw.”