Y gantores a’r awdures Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed

Phyllis Kinney a Dr Meredydd Evans

Mae’r gantores ac awdures blaenllaw ar gerddoriaeth werin Cymru Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed.

Cafodd Phyllis Kinney ei geni yn America ac roedd wedi astudio yn Ysgol Juilliard ac roedd yn soprano gyda Chwmni Opera Carl Rosa yn ystod y 1940au. 

Ar ôl cwrdd â'i gŵr Dr Meredydd Evans (y ddau yn y prif lun uchod), fe wnaeth hi ymgolli yn niwylliant Cymru. Trwy ei hysgrifennu, ei hymchwil a'i pherfformiadau, helpodd Kinney i gadw a hyrwyddo cerddoriaeth draddodiadol Cymru. 

Mae archifau Kinney ac Evans bellach yn rhan o Archif Cerddoriaeth Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun: “Am newyddion trist heno wrth glywed am golli Phyllis Kinney - ffigwr allweddol ym myd alawon gwerin Cymru ac mor ddylanwadol yn y maes. 

"Byddwn yn cofio’i chyfraniad a’i hymroddiad i’n hiaith a’n diwylliant am flynyddoedd i ddod, gan anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei theulu a’i ffrindiau heno. Diolch am bopeth a chwsg mewn hedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.